Mae’n bleser gan Run 4 Wales (R4W) gyhoeddi y bydd Hanner Marathon Caerdydd Wizz Air yn dychwelyd yn 2022.
Ar ôl llacio’r cyfyngiadau ar ddigwyddiadau awyr agored a chynnal Ras Bae Caerdydd Brecon Carreg a Marathon Casnewydd Cymru ABP yn llwyddiannus yn Hydref 2021, mae nawr yn bosibl cynnal y ras yn ddiogel dydd Sul 2 Hydref 2022.
Bydd nifer o fesurau ychwanegol ar waith i ddiogelu iechyd a diogelwch cyfranogwyr, staff y digwyddiad, gwirfoddolwyr a’r cyhoedd yn ehangach.
Bydd Hanner Marathon Caerdydd yn cael ei gyflwyno fel ‘Digwyddiad Anadladwy’ – sy’n darparu profiad ac awyrgylch gwych ar gyfer diwrnod y digwyddiad, gan ganolbwyntio ar gyfrifoldeb a diogelwch.
Mae’r ddogfen hon yn rhoi manylion yr holl fesurau a fydd yn cael eu rhoi ar waith i sicrhau eich diogelwch ac atal y Coronafeirws rhag lledaenu. Bydd disgwyl i’r rhai sy’n bresennol gymryd cyfrifoldeb personol i helpu i gadw pawb yn ddiogel.
Byddwn yn cadw mewn cysylltiad rheolaidd â chyfranogwyr, gwirfoddolwyr a staff y digwyddiad yn y cyfnod sy’n arwain at y digwyddiad i rannu rhagor o fanylion am y mesurau iechyd a diogelwch a fydd ar waith, yn ogystal â’ch diweddaru os bydd unrhyw gyfyngiadau’n cael eu hailosod.