Hanner Marathon Caerdydd

CYN Y RAS

Rhif Rhedwr a Sglodyn Amseru

Mae eich pecyn ras yn cynnwys rhif rhedeg gyda sglodyn amseru yn sownd ynddo. Sicrhewch fod eich rhif wedi’i osod AR FLAEN eich fest neu’ch crys-T cyn y ras i sicrhau bod eich amser gorffen yn cael ei gofnodi.

Bydd y sglodyn amseru yn ein galluogi i roi ‘amser sglodyn’ i chi (gan ddechrau pan fydd eich rhif yn croesi’r llinell gychwyn).

MAE’N RHAID I CHI LENWI’R ADRAN MANYLION MEWN ARGYFWNG AR GEFN EICH RHIF.

Bydd y lliw solid sydd y tu ôl i’ch rhif bib (nail ai gwyn, gwyrdd, coch, glas, porffore neu felyn) yn cyfateb i liw eich corlan gychwyn a’ch amser cychwyn yn y ras.

Peidiwch â chyfnewid eich rhif bib gyda rhedwr arall – mae’n cynnwys eich manylion iechyd a’ch manylion cyswllt mewn argyfwng a bydd yn annilysu yswiriant neu’n arwain at ganlyniadau difrifol os byddwch chi’n rhan o ddigwyddiad meddygol ar y diwrnod.

Mae systemau ar waith i fonitro cyfnewid rhifau a bydd y rheini sy’n cael eu dal yn gwneud hynny yn cael eu gwahardd rhag pob digwyddiad yn y dyfodol ac yn cael eu reportio i’r corff llywodraethu.

Bagiau

Bydd lle i gadw bagiau ar gael cyn y ras, a bydd ar agor o 08:30am ymlaen. Fe’i lleolir ar Rodfa’r Amgueddfa ger Pentref y Digwyddiad yn y Ganolfan Ddinesig. Bydd pob rhedwr yn cael gadael un bag, a rhaid ichi roi eich label arno, sef stribyn y gellir ei dorri i ffwrdd oddi ar waelod eich rhif ras. Chi sy’n atebol am unrhyw risg o adael eitemau gwerthfawr yn y man cadw. Ni ddylai unrhyw fag fod yn fwy nag bag cefn bach.

Toiledau

Bydd nifer o doiledau i’w cael o amgylch y Ganolfan Ddinesig ym Mhentref y Digwyddiad, ar y ffordd i’r llinell gychwyn ac wrth ymyl y corlannau, yn ogystal ag o fewn milltir gyntaf y ras ac ym mhob gorsaf ddŵr.

Amseroedd y Rasys a Chorlannau Amseru

Bydd Hanner Marathon Caerdydd Cymdeithas Adeiladu Principality yn cychwyn ar Heol y Castell am 10:00am ddydd Sul 1 Hydref, gyda’r ras cadair olwyn elît yn cychwyn am 09:50am. Bydd sawl amser cychwyn ar gyfer y ras i sicrhau bod pob rhedwr yn cychwyn y ras mor ddiogel â phosibl. Bydd y corlannau gwyn, gwyrdd a goch yn cychwyn am 10:00 (corlan yn agor am 09:15) a’r corlannau glas, porffor a melyn yn cychwyn am 10:10 (corlan yn agor am 09:40). Bydd y lliw solid sydd y tu ôl i’ch rhif bib (nail ai gwyn, gwyrdd, coch, glas, porffore neu felyn) yn cyfateb i liw eich corlan gychwyn a’ch amser cychwyn yn y ras. Dylech ymgynnull yng nghefn eich corlannau a fydd wedi’u codio â baneri lliw. Am resymau diogelwch, rhaid i chi ymgynnull yn y gorlan gychwyn cywir a ni chaniateir i chi symud ymlaen o gorlan, dim ond am yn ôl. Bydd y gorlan wen yn cael ei his-rannu’n ardaloedd elît ac o dan 1:30 awr ar y bore yn unol â’ch rhif ras a’r amser rydych chi’n ei ddisgwyl.

Am resymau diogelwch, rhaid i redwyr ymgynnull yn y gorlan gychwyn â’r lliw cywir. Gall rhedwyr symud yn ôl i gorlan arall, ond nid ymlaen.

Man Tawel

Bydd man niwrogynhwysol ar gael i redwyr, i gefnogwyr ac i’w teuluoedd ei ddefnyddio cyn, yn ystod ac ar ôl y ras.

YN YSTOD Y RAS

Terfyn Amser ac Ailagor Ffyrdd

Mae gan y digwyddiad derfyn amser o 4.5 awr er mwyn sicrhau bod ffyrdd yn gallu ailagor yn ddiogel o fewn cyfnod rhesymol er mwyn lleihau’r effaith ar y ddinas.

Os bydd rhedwyr yn cael trafferth gorffen y ras o fewn yr amser penodedig, bydd cerbyd swîp yn eu casglu. Rhaid i’r rheini sy’n dymuno parhau â’r ras wneud hynny ar y palmentydd (wrth i’r ffyrdd ailagor) a gwneud hynny ar eu menter eu hunain – nid fel rhan o’r digwyddiad.

Eich Diogelwch

Os ydych yn teimlo nad ydych yn gallu mynd ymlaen ar unrhyw adeg yn ystod y ras, stopiwch, gorffwyswch ac ewch at y marsial agosaf.

Bydd timau meddygol wrth law o gwmpas y cwrs a hefyd yn y man cychwyn ac ar derfyn y ras. Os oes angen triniaeth arnoch, mae canolfan feddygol ar gael wrth y llinell derfyn yn ogystal â chyfleuster meddygol galw heibio wedi’i leoli ym mhentref y digwyddiadau.

Dylai gwylwyr sy’n chwilio am redwyr sydd ar goll neu wedi eu hanafu rhoi gwybod i ddesg gymorth y digwyddiad ym mhentref y digwyddiad ar Lawnt Neuadd y Ddinas.

Eich cyfrifoldeb chi yw rhoi gwybod i ni os oes gennych unrhyw gyflyrau meddygol arbennig ac i sicrhau eich bod wedi llenwi’r wybodaeth feddygol ar gefn eich rhif rhedwr.

Os bydd unrhyw beth difrifol yn digwydd, mae gan Gyfarwyddwr y Ras a’r Gwasanaethau Brys yr hawl i:

  • Newid neu fyrhau llwybr y ras, ond parhau i ddarparu ras os yw hynny’n bosibl
  • Stopio’r ras ar unrhyw adeg, os credir bod hynny’n angenrheidiol i warchod eich diogelwch.

Dillad Diangen ac Eiddo Coll

Os byddwch yn colli rhywbeth cyn neu yn ystod y ras, bydd lle ar gyfer eiddo coll wrth y ddesg gymorth ym Mhentref y Digwyddiad. Ar ôl penwythnos y ras, cysylltwch â ni drwy anfon e-bost at [email protected].

Pan fo’n bosibl, dylech osgoi gadael dillad wrth y man cychwyn. Bydd unrhyw ddillad diangen sy’n cael eu gadael ar ôl yn cael eu rhoi i Play It Again Sport.

Camwyr Cyflymder

Bydd camwyr cyflymder yn rhedeg gyda baneri sy’n cyfateb i’r amseroedd canlynol: 1:30, 1:45, 2:00, 2:15, 2:30, 2:45, 3:00, 3:30 a 4:00. Cadwch lygad amdanyn nhw yn eich corlan. Maen nhw’n griw cyfeillgar ac yno i wella’ch

Lluniau a Fideos

Bydd ein ffotograffwyr, Marathon Photos, yn darparu lluniau byw i chi yn ystod y ras!

Cyn gynted a bydd ffotograffydd yn tynnu eich llun, bydd modd i chi ei weld a’i brynu’n syth yn marathonphotos.live.

Gwylwyr

Mae nifer o leoliadau gwych o amgylch y cwrs i wylio’r ras, ond dylai gwylwyr fod yn ofalus bob amser, defnyddio’r mannau croesi a ddarperir a thalu sylw i gyngor y stiwardiaid.

Fe welwch ganllaw arbennig i wylwyr yn eich pecyn ras y gall eich anwyliaid ei ddefnyddio i gael cyngor am y lleoedd gorau i’ch cefnogi.

Adloniant ar y Cwrs

Bydd nifer o fandiau, diddanwyr a mannau annog o gwmpas y cwrs i gynnig anogaeth gerddorol. Bydd y Gylchfan Enfys ym Mharc y Rhath, a gyflwynir i chi gan Gymdeithas Adeiladu Principality a Pride Cymru yn dychwelyd ar gyfer 2024 – cofiwch fod twmpathau cyflymder ar y rhan hon o’r cwrs.

Gorsafoedd Diod ac Egni

Bydd dŵr (Brecon Carreg), jels egni (HIGH5) a diodydd egni (Lucozade) ar gael o amgylch y llwybr. Mae lleoliadau’r gorsafoedd wedi’u nodi ar fap y cwrs.

Tracio yn Fyw

Gyda’n ap traciwr byw swyddogol, gallwch astudio’r llwybr cyn y ras a thracio’r rhedwyr yn fyw ar ddiwrnod y ras gyda help Google Maps. Gallwch gael rhagor o wybodaeth a llwytho’r ap i lawr yn cardiffhalfmarathon.co.uk/cy/ap-tracio-yn-fyw

AR OL Y RAS

Y Llinell Derfyn ac Eitemau Cofio

Er mwyn osgoi tagfeydd, parhewch i symud drwy’r llinell derfyn ar ôl gorffen y ras i gasglu eich eitemau cofio (medal, dŵr, crys-T i orffenwyr a bwyd).

Bydd staff meddygol wrth law ar gyfer unrhyw un sydd angen sylw meddygol.

Bydd crysau-T i orffenwyr, sydd ar gael mewn meintiau rhwng XS a 3XL, yn cael eu dosbarthu’n ôl y maint y gofynnir amdano wrth gofrestru, felly ni allwn warantu bydd y maint yr oeddech wedi gofyn amdano ar gael os bydd y rhai sy’n gorffen o’ch blaen yn newid eu meddwl ar y diwrnod.

Gofynnwn yn garedig i bawb sy’n cymryd rhan gasglu’r maint y gofynnwyd amdano.

Mannau Cyfarfod

Bydd mannau cyfarfod A-Z yn cael eu gosod wrth ymyl Llys y Goron ar Rodfa’r Brenin Edward VII ger Neuadd y Ddinas.

Seremoni Wobrwyo’r Ras Elît

Bydd seremoni wobrwyo yn cael ei chynnal am 11:30am ger y llinell derfyn. Bydd gwobrau’n cael eu dyfarnu i enillwyr y ras. I gael manylion am y gwobrau, ewch i cardiffhalfmarathon.co.uk/cy.

Cyfleusterau Newid a Chawodydd

Bydd mannau newid i ddynion a menywod ar gael yn y pebyll cadw bagiau. Bydd cyfleusterau cawod ar gael yn Chwaraeon Cymru yng Ngerddi Soffia am gyfraniad o £1 at elusen yr NSPCC – i’w dalu yn y dderbynfa.

Ffisiotherapi

Bydd Rhaglen Ffisiotherapi Prifysgol Caerdydd yn darparu gwasanaethau ffisiotherapi cyn ac ar ôl y ras o’r ardal tylino yn Neuadd y Ddinas.

Mae’r gwasanaeth am ddim i bawb sy’n cymryd rhan, ac mae’n lle perffaith i dylino unrhyw dyndra yn y cyhyrau cyn y ras neu i leddfu doluriau a phoenau ar ôl y ras.

Plant ar goll

Os ydych wedi colli plentyn neu’n dod o hyd i blentyn sydd ar goll ar ddiwrnod y digwyddiad, rhowch wybod i’r stiward, i’r staff diogelwch neu i’r swyddog heddlu agosaf ar y safle cyn gynted â phosib. Neu, rhowch wybod i rywun wrth y ddesg gymorth o flaen Neuadd y Ddinas, lle bydd pobl yn gofalu am blant sydd ar goll neu’n rhoi gwybod i rywun eu bod ar goll.

Pentref y Digwyddiad

Ewch i Bentref y Digwyddiad ar ôl y ras i fwynhau’r awyrgylch, yr adloniant, i dylino’r corff am ddim neu i wledda ar fwyd stryd blasus.

Wedi’i leoli ar Lawnt Neuadd y Ddinas. Mae rhagor o wybodaeth am yr hyn sy’n digwydd yma.

Map O’r Llwybr