Hanner Marathon Caerdydd

Parcio

Mae ein cyfleuster Parcio a Cherdded Swyddogol yn Stadiwm Pêl-droed Dinas Caerdydd (Heol Lecwydd, Caerdydd, CF11 8AZ). 07:00yb – 06:00yp.

Mae Stadiwm Dinas Caerdydd filltir o gerdded o’r llinell gychwyn, sy’n gyfle delfrydol i gynhesu’r corff cyn y ras.

Fel rhan o’n huchelgais i barhau i wella a hyrwyddo teithio cynaliadwy ym mhob un o ddigwyddiadau Rhedeg dros Gymru, mae’n bleser gennym gyhoeddi bod llefydd parcio am bris gostyngol ar gael ar gyfer bysiau a bysiau mini fel rhan o’n gwasanaeth parcio.  Bydd hyn yn golygu bod grwpiau mawr yn cael cyfle i deithio’n gynaliadwy ac yn rhannu’r gost o barcio ymhlith mwy o bobl.

Rhaid archebu un lle parcio fesul cerbyd, am £8 y car a rhydd y bws/bws mini. Bydd y porthol cofrestru yn cau am hanner nos ddydd Gwener cyn y ras neu pan fydd y llefydd i gyd yn gwerthu – pa un bynnag sy’n digwydd gyntaf.  Rydyn ni’n eich cynghori i archebu’n fuan er mwyn osgoi cael eich siomi.

Dylech argraffu eich cadarnhad e-bost ar bapur A4 fel prawf prynu a’i roi ar eich dashfwrdd er mwyn cael mynediad cyflym.  

Mae opsiynau parcio eraill ar gael yn y ddinas yn www.en.parkopedia.co.uk/parking/cardiff neu www.cardiff.gov.uk ac efallai fod rhai llefydd parcio ar gael ar ochr y ffordd (gwnewch yn siŵr ei bod yn ddiogel i chi wneud hynny).

Mae Park Cardiff App yn rhoi map amser real o’r llefydd parcio sydd ar gael yn y ddinas cyn eich cyfeirio at fan gwag.  Llwythwch yr ap i lawr ar ddyfeisiau iOS ac Android neu cliciwch yma i ddysgu mwy.


Teithio

 

Ar y Trên

Gyda chynifer o redwyr a gwylwyr yn teithio i Gaerdydd yn ystod penwythnos y ras, un o’r ffyrdd fwyaf dibynadwy, di-straen a chost-effeithiol o deithio i Gaerdydd ac osgoi tagfeydd yw drwy deithio ar y trên cyn diwrnod y ras – beth am wneud penwythnos ohoni?

Os ydych chi’n bwriadu teithio ar ddiwrnod y ras, cofiwch gadarnhau gyda’ch darparwr trenau lleol a oes digon o amser i chi gyrraedd y ras cyn 10am a chofiwch fod gwasanaethau cynnar ar fore Sul yn gallu bod yn gyfyngedig iawn.

Mae gan orsaf drenau Caerdydd Canolog gysylltiadau rheilffyrdd gwych â nifer o ddinasoedd a rhanbarthau pwysig o fewn 3-4 awr o deithio.  Ewch i www.nationalrail.co.uk neu www.trainline.com i weld yr amserlenni a phrisiau tocynnau o amgylch y DU. Os ydych chi’n byw yng Nghymru, rydyn ni’n argymell teithio o un o orsafoedd Trafnidiaeth Cymru neu Reilffyrdd y Cymoedd. Mae amserlen ar gael yn https://trctrenau.cymru/.


Ar Droed

Mae Caerdydd yn hawdd ei chyrraedd ar droed ac mae nifer o’r prif gyrchfannau o fewn pellter cerdded byr i’w gilydd.  Gallwch groesi’r ddinas, cyrraedd lleoliadau o amgylch y ddinas yn hawdd a churo’r traffig gan fod nifer o’r strydoedd ar gyfer cerddwyr yn unig.


Ar Fws

Mae teithio i Gaerdydd ar fws yn rhad ac yn hawdd o nifer o ddinasoedd a rhanbarthau pwysig.  Gallwch deithio ar Fws y National Express o’r rhan fwyaf o ddinasoedd y DU.  Mae llwybrau’r Megabus yn dod i Gaerdydd hefyd o Lundain, Abertawe, Maes Awyr Birmingham, Manceinion a Newcastle.  Mae’r Megabus yn aros yn Ffordd y Brenin, gyferbyn â Gwesty’r Hilton, wrth ymyl y corlannau cychwyn.

O ganlyniad i gau ffyrdd cyn y ras, bydd teithio ar fws yng Nghaerdydd fymryn yn anoddach nag arfer os ydych chi’n anelu i gyrraedd cyn dechrau’r ras.  Dylech ganiatáu amser ychwanegol a theithio ymhell cyn i’r ras gychwyn er mwyn osgoi cael eich gollwng yn bell o ganol y ddinas.  Ewch i www.cardiffbus.com am ragor o wybodaeth yn nes at ddiwrnod y ras.


Ar Feic

Mae teithio ar feic i’r llinell gychwyn yn hawdd, yn gynaliadwy ac yn ymarferol os ydych chi’n byw o fewn pellter rhesymol i Ganol Dinas Caerdydd.

Bydd ardal parcio beiciau ar gael yng Ngerddi’r Orsedd o flaen Amgueddfa Genedlaethol Cymru ar ddiwrnod y ras.  Gallwch gloi eich beic yn yr ardal hon drwy gydol diwrnod y ras.

Fe allech chi feicio i’r orsaf agosaf ar rwydwaith Rheilffyrdd y Cymoedd hefyd er mwyn dal y trên ar gyfer gweddill y ffordd ac osgoi unrhyw draffig.

Mae gan Sustrans Cymru nifer o fapiau, llwybrau a chyngor ar eu gwefan ar gyfer unrhyw un sy’n ansicr o’r llwybr gorau i mewn i Gaerdydd.

Mae cynllun rhannu beiciau NextBike ar gael yn y ddinas hefyd, os nad oes gennych chi eich beic eich hun.


Ar Awyren

Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd

Mae’r maes awyr 15km i’r De-orllewin o ganol dinas Caerdydd.  Unwaith y byddwch chi wedi cyrraedd, gallwch deithio i ganol y ddinas ar dacsi, ar drên neu ar fws. Mae’r tacsis wedi’u lleoli y tu allan i’r neuadd gyrraedd.  Ar gyfer tocynnau trên ac amseroedd, ewch i https://trctrenau.cymru/. Os ydych chi’n teithio ar y bws, bydd y gwasanaeth T9 yn mynd â chi o’r maes awyr i ganol y ddinas ac i Fae Caerdydd ac oddi yno (www.trawscymru.info/t9/).

Mae’r cwmnïau hedfan canlynol yn teithio i Gaerdydd: Aer Lingus, Air Malta, Eastern Airways, Flybe, KLM, Ryanair, Thomas Cook Airlines, Thomson Airways a Vueling.

Cymharwch y prisiau hedfan yn www.skyscanner.net

Maes Awyr Bryste

Mae maes awyr Bryste 45 munud i ffwrdd o Gaerdydd yn y car neu awr ar y trên neu’r bws. Gyda chysylltiadau rheolaidd â Chaerdydd ac amrywiaeth o gwmnïau hedfan Ewropeaidd yn hedfan i Fryste, mae’r maes awyr hwn yn opsiwn cyfleus ac agos i lawer o bobl.

I gael rhagor o wybodaeth am gyrraedd a gadael y maes awyr, cliciwch yma.

Mae’r cwmnïau hedfan canlynol yn teithio i Fryste: Aer Lingus, Aurigny, Blue Islands, BMI Regional, Brussels Airlines, Easy Jet, KLM, Ryan Air, Thomas Cook Airlines, Wizz Air, Wow Air.

Cymharwch y prisiau hedfan yn www.skyscanner.net

Ymhlith y Meysydd Awyr eraill sydd o fewn dwy/tair awr i Gaerdydd yn y car mae Gatwick Llundain, Heathrow Llundain, Birmingham a Manceinion.


Mewn Car

Os byddwch chi’n teithio yn y car, dylech fod yn ymwybodol bod tagfeydd traffig i mewn i’r ddinas yn bosibl ar ddiwrnod y ras a phan fydd y ffyrdd wedi cau. Dylech ganiatáu digon o amser i gyrraedd mewn da bryd cyn y ras er mwyn osgoi tagfeydd a dod o hyd i le parcio addas.

Cofiwch y bydd rhai ffyrdd ar gau ar hyd y cwrs ar ddiwrnod y ras. Mae map llawn o’r ffyrdd fydd ar gau ar gael yma.

O’r Dwyrain: Gadewch yr M4 ar gyffordd 32 a dilynwch yr A470 (y ffordd ymadael 1af ar y gylchfan) i mewn i ganol Caerdydd.

O’r Gorllewin: Gadewch yr M4 ar gyffordd 33 ac ymunwch â’r A4232 (y 3edd ffordd ymadael ar y gylchfan).  Yna fe allech chi naill ai adael yr A4232 ar y gylchfan nesaf a dilyn arwyddion am ganol dinas Caerdydd, neu, bydd gwyriad ar yr A4232 o ganlyniad i gau ffyrdd yn ystod y ras.

O Dde-orllewin Lloegr: Gyrrwch i’r Gogledd ar hyd yr M5 ac yna dilynwch yr arwyddion am Dde Cymru a’r M4.

O Ganolbarth a Gogledd Lloegr: Anelwch am yr M50 (cyffordd 8 ar draffordd yr M5) ac yna ewch ar yr A40 (dilyn arwyddion De Cymru, Trefynwy). Parhewch ar yr A40 hyd nes byddwch chi’n cyrraedd Trefynwy pan fydd y ffordd yn newid i’r A449.  Dilynwch yr A449 hyd nes byddwch chi’n cyrraedd cylchfan Coldra. Yma, dylech chi gymryd y 5ed ffordd ymadael i ymuno â’r M4.