Hanner Marathon Caerdydd

Os nad ydych chi’n gallu cymryd rhan yn Hanner Marathon Caerdydd Cymdeithas Adeiladu Principality (Mis Hydref 2023) mwyach oherwydd anaf, salwch neu amgylchiadau eraill, mae gennych chi tan 24/8/2023 i drosglwyddo eich cofrestriad i redwr arall er mwyn i chi allu cael ad-daliad. 

Mae dolen drosglwyddo ar gael yn yr e-bost cadarnhau a gawsoch pan wnaethoch gofrestru, neu gallwch fewngofnodi (isod) i’ch cyfrif ACTIVE gyda’ch cyfeiriad e-bost a’ch cyfrinair.

Os ydych chi’n bwriadu trosglwyddo eich lle i redwr arall, neu os ydych chi’n gobeithio dod o hyd i rywun sy’n fodlon trosglwyddo ei le i chi, y lle gorau i fynd yw tudalen Facebook Hanner Marathon Caerdydd Wizz Air. Yma, fe welwch chi bod rhedwyr yn aml yn cynnig eu lle neu’n nodi eu bod yn chwilio am le yn y ras.  Cadwch lygad am hyn.  Unwaith y bydd y dyddiad olaf ar gyfer trosglwyddo wedi pasio, byddwn yn dileu pob neges sy’n ymwneud â throsglwyddo.

ACTIVE, ein system gofrestru ar-lein, fydd yn delio â’r broses drosglwyddo:

  • Bydd y cyfranogwr presennol yn creu dolen drosglwyddo
  • Bydd y cyfranogwr presennol yn anfon dolen drosglwyddo at y rhedwr sy’n awyddus i redeg yn ei le
  • Bydd y rhedwr newydd yn cofrestru ar gyfer y ras, gan dalu’r pris llawn
  • Unwaith y bydd y broses gofrestru wedi’i chwblhau, bydd y cyfranogwr presennol yn cael ad-daliad ar ôl tynnu’r ffi drosglwyddo*

Ein dyddiad olaf ar gyfer trosglwyddo yw eich cyfle olaf i wneud unrhyw newidiadau terfynol i’ch cofrestriad.  Mae hyn yn cynnwys:

  • Eich amser gorffen disgwyliedig (bydd hyn yn pennu eich corlan gychwyn)
  • Eich cyfeiriad post (i ble y caiff eich pecyn ras ei anfon)
  • Maint eich crys T
  • Eich dewisiadau o ran y Gymraeg (bydd hyn yn pennu a ydych chi’n cael bathodyn Cymraeg ar eich rhif rhedwr)

Ni fydd modd trosglwyddo eich lle na newid eich cofrestriad ar ôl y dyddiad trosglwyddo olaf gan y bydd pecynnau’r ras (sy’n cynnwys manylion cyfeiriad a meddygol penodol y rhedwyr) yn cael eu cynhyrchu ar ôl y dyddiad hwn.

Peidiwch byth â chyfnewid eich rhif ras ag unrhyw redwr arall heb ddefnyddio’r gwasanaeth trosglwyddo swyddogol drwy ein system gofrestru, oherwydd gallai hyn achosi problemau i’n timau meddygol ac i’r gwasanaeth canlyniadau.  Bydd hefyd yn annilysu yswiriant os bydd y person sy’n rhedeg gyda’ch rhif mewn damwain.  Os bydd trefnwyr y ras yn dod i wybod am unrhyw bobl sy’n cyfnewid eu rhifau ras, byddant yn eu gwahardd ac yn hysbysu Athletau Prydain.