Mae Hanner Marathon Caerdydd/Prifysgol Caerdydd
yn cynnwys tair ras elit frwd, sef ras y merched, ras y dynion a’r ras
cadeiriau olwyn.
Dyfarnwyd Label Arian y Rasys Ffordd i’r ras gan yr IAAF,
corff llywodraethu athletau’r byd, gan ymuno â Marathon Llundain fel yr unig
ddigwyddiad arall yn y DU i feddu ar label o unrhyw liw.
Mae’r digwyddiad yn gartref i Bencampwriaethau
Hanner Marathon Cymru a gynhelir bob blwyddyn ac mae hefyd wedi cynnal
Pencampwriaethau Hanner Marathon Prydain (2014/15), y Byd (2016) a’r Gymanwlad
(2018). Caiff ei ddarlledu’n fyw ar y BBC.
I gael rhagor o wybodaeth am gofrestru ar gyfer
y ras elit, y gwobrau ariannol a’r meini prawf cofrestru, cysylltwch ag [email protected]