Cyngor ar Iechyd
- Dylech bob amser gynhesu’r corff cyn gwneud ymarfer corff, yn enwedig cyn rhedeg yn bell.
- Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwisgo dillad sy’n addas ar gyfer y tywydd.
- Gwnewch yn siŵr eich bod chi wedi hydradu ac ewch â dŵr a byrbrydau gyda chi os ydych chi’n mynd allan i redeg yn bell.
- Os oes gennych chi gyflwr meddygol neu os oes amheuaeth ynghylch eich iechyd, gwnewch yn siŵr eich bod yn ymgynghori â’ch meddyg cyn rhedeg.
- Peidiwch byth â rhedeg os ydych chi’n sâl neu os oes haint arnoch chi ac unwaith y byddwch chi wedi gwella, dylech ddechrau hyfforddi eto’n raddol.
- Peidiwch â rhedeg os oes gennych chi anaf, hyd yn oed os yw’n gwella, heb ymgynghori â meddyg
- Peidiwch â gwthio eich hunain y tu hwnt i’ch ffitrwydd. Stopiwch redeg os ydych chi’n teimlo’n sâl
- Os byddwch chi’n cael anaf wrth redeg, peidiwch â dal ati i redeg. Gofynnwch am gyngor meddygol
I gael rhagor o gyngor ar iechyd ewch i: www.runnersmedicalresource.com
Cyngor ar Ddefnyddio Jels a Diodydd Egni
Yn ogystal â darparu dŵr mewn gorsafoedd amrywiol drwy gydol y ras, bydd diodydd egni ar gael rhwng milltir 8 a milltir 9 a bydd jels egni ar gael ar filltir 6 yn Roald Dahl Plass. I gael rhagor o fanylion am y brandiau a’r cynhyrchion penodol a gynigir ar y cwrs, cliciwch yma.
Os nad ydych chi wedi defnyddio’r cynhyrchion hyn ymlaen llaw wrth hyfforddi, byddem yn eich cynghori i roi cynnig arnynt cyn y digwyddiad i sicrhau bod eich corff dod i arfer â’r cynnyrch.
Yfwch ddŵr yn gall drwy gydol y ras er mwyn hydradu eich corff a pheidiwch ag yfed gormod o ddiodydd neu jels egni er mwyn osgoi unrhyw gymhlethdodau.
Cyflyrau’r Galon, Sgrinio ac Atal
Gweler y cyngor isod gan Sefydliad Prydeinig y Galon ynghylch cyflyrau’r galon, sgrinio ac atal.
- Gall pobl fod ag anhwylder ar y galon heb ei ddiagnosio a heb wybod amdano oherwydd nid oes i rai cyflyrau arwyddion na symptomau amlwg a, gwaetha’r modd, ni fydd neb yn gwybod amdanynt tan i rywbeth ddigwydd, fel ataliad y galon. Gwaetha’r modd, mae hyn yn aml yn wir am gyflyrau etifeddol ar y galon.
- Rydym yn cefnogi asesiadau arbenigol wedi’u targedu at deuluoedd sydd â risg uchel o glefydau etifeddol y galon neu deuluoedd lle cafwyd marwolaeth sydyn, anesboniadwy ond nid oes digon o dystiolaeth i ddangos bod sgrinio pawb yn ddefnyddiol.
- Mae’r BHF yn awyddus i unigolion ddeall hanes meddygol eu teulu yn well. Felly, os oes aelod o’u teulu wedi cael diagnosis o gyflwr etifeddol ar y galon neu wedi marw’n sydyn, yn enwedig os oedd yn ifanc, byddem yn eu cynghori i drafod hyn gyda’u meddyg teulu, gyda golwg ar gael eu sgrinio a’u hasesu gan wasanaeth cyflyrau etifeddol ar y galon, os yw hynny’n briodol.
- Os yw pobl yn awyddus i gael gwybodaeth a chefnogaeth ynghylch cyflyrau etifeddol ar y galon, mae gwybodaeth i’w chael ar ein gwefan ni neu gallant ffonio Gwasanaeth Gwybodaeth Genetig y British Heart Foundation ar 0300 456 8383.
- Er ei bod yn arbennig o drist pan fydd rhywun ifanc yn marw’n sydyn, mae’n ddigwyddiad cymharol brin, diolch am hynny. Yn y Deyrnas Unedig, amcangyfrifir bod 12 o bobl o dan 35 oed yn marw bob wythnos o gyflwr heb ei ddiagnosio ar y galon.
- Mae’r BHF yn dal i ariannu gwaith ymchwil i enynnau pobl ac i glefydau’r galon. Nid yw llawer o’r symptomau yn amlwg tan ei bod yn rhy hwyr a gan nad ydym yn gwybod hyd yma am yr holl enynnau diffygiol sy’n gyfrifol.
Cyngor ar Ddiogelwch
- Beth am redeg gyda ffrind neu mewn grŵp? Mae grwpiau rhedeg ar gael mewn sawl ardal ac maen nhw’n gwybod am lwybrau da, diogel.
- Os oes rhaid i chi redeg ar eich pen eich hun, dewiswch lwybr lle bydd pobl eraill o gwmpas gan amrywio pryd byddwch chi’n rhedeg
- Pan fyddwch chi’n rhedeg yn y nos, dylech bob amser ddewis llwybr wedi’i oleuo’n dda
- Ewch â ffôn symudol a rhywfaint o arian gyda chi rhag ofn y bydd argyfwng
- Gwisgwch ddillad llachar/adlewyrchol er mwyn bod yn hawdd eich gweld, yn arbennig gan y traffig
- Os ydych chi’n rhedeg ar y ffordd, gwnewch yn siŵr eich bod yn wynebu’r traffig sy’n dod i gwrdd â chi
- Gall clustffonau dynnu eich sylw chi oddi ar eich amgylchoedd – rhowch nhw mewn un glust os ydych chi wir eisiau gwrando ar gerddoriaeth
- Cadwch watshis a gemwaith drud allan o’r golwg a defnyddiwch boced diogel neu fag o amgylch eich canol i gadw unrhyw eitemau gwerthfawr yn ddiogel
Mae’r cyngor hwn yn seiliedig ar yr wybodaeth a ddarparwyd gan Ymddiriedolaeth Suzy Lamplugh (www.suzylamplugh.org), elusen sy’n arbenigo mewn addysg diogelwch personol.
Cyngor Diogelwch UKA i Redwyr ac Arweiniad i’r rhai sydd ddim yn Rhedeg
Mae unrhyw gamdriniaeth neu fygythiadau yn erbyn athletwyr wrth hyfforddi yn annerbyniol. Yn dilyn achosion proffil uchel o aflonyddu ar athletwyr yn hyfforddi mewn ardaloedd cyhoeddus, mae Athletau’r DU (UKA) wedi llunio dogfen sy’n anelu at gefnogi athletwyr, rhedwyr hamdden a phobl chwaraeon eraill sy’n ymarfer yn gyhoeddus. Cyhoeddwyd canllawiau i bobl nad ydynt yn rhedwyr hefyd i dynnu sylw at sut y gall rhai ymddygiadau achosi niwed neu ofid, hyd yn oed yn anfwriadol. Gweld y canllaw yma.
Dydy Rhedeg dros Gymru ddim yn gyfrifol am y cynnwys a’r cyngor a nodir yma ac ar wefannau allanol.