Mae Caerdydd, prifddinas Cymru, yn cynnig amrywiaeth arbennig o atyniadau unigryw, adloniant o’r radd flaenaf a siopau o safon – a’r cyfan o fewn pellter cerdded. Mae ganddi bensaernïaeth arloesol sy’n sefyll ochr yn ochr ag adeiladau hanesyddol ac mae Bae Caerdydd yn cynnig adloniant i bawb.
Defnyddiwch ein hadrannau Darganfod Caerdydd a Chyrraedd Yma ac o Amgylch y Ddinas i gynllunio eich taith. Cewch weld beth sydd i’w gweld a’u gwneud yma, y digwyddiadau sydd ar y gweill yn ogystal â chael blas ar y chwaraeon, y siopau a’r llefydd bwyta ac yfed sydd ar gael. Cymerwch gip ar ein blog i gael awgrymiadau lleol a phorwch drwy ein Canllaw Ble i Aros i ddod o hyd i lety.
Mae Caerdydd yn llawn hanes, cyffro chwaraeon, awyrgylch rhamantus, diwylliannau amrywiol a gweithgareddau ‘arallfydol’ ac mae’n lle perffaith i deuluoedd, cyplau a grwpiau fynd ar wyliau. Mae Caerdydd yn ddinas fywiog, a dim ond 2 awr o Lundain ar drên.
Ewch i www.croesocaerdydd.com i gael rhagor o wybodaeth.