Hanner Marathon Caerdydd
Rhedeg Dros Gymru

Gwyl Marathon Casnewydd Cyrmu

Marathon, Hanner Marathon, 10K a Ras Iau

28 Ebrill 2024

https://newportwalesmarathon.co.uk/

Mae Marathon Casnewydd Cymru ABP yn ffefryn cadarn ar galendr rhedeg Cymru, gydag un o’r cyrsiau marathon mwyaf gwastad yn y DU.

Mae’r llwybr yn dilyn tirnodau eiconig fel Pont Gludo’r ddinas ac mae yno olygfeydd godidog o Wastadeddau Gwent – gyda bywyd gwyllt y môr a phentrefi canoloesol hyfryd.

Mae dyddiau gorau Casnewydd yn sicr o’i blaen. Mae’n ddinas llawn hanes ag awyrgylch aml-ddiwylliannol – gyda bragdai artisan a threftadaeth gerddorol gyfoethog. Mae’r rasys yn dechrau ac yn gorffen ar lan yr afon yng nghanol y ddinas, sydd wedi cael ei hadfywio.

Mae’r ras 10K hwyliog a chyflym sy’n cyd-fynd â’r marathon yn rhoi cyfle i redwyr o bob gallu gymryd rhan heb ymrwymo i’r pellter heriol o 26.2 milltir.

10K Bae Caerdydd Brecon Carreg

10K a Ras Iau

Dydd Sul 19 Mai 2024

www.cardiffbay10K.co.uk

Mae Ras Bae Caerdydd Brecon Carreg yn ddigwyddiad cyflym, gwastad a hwyliog i bobl o bob oed a gallu, ac mae’n rhan o Gyfres 10K R4W.

Mae’r ras boblogaidd hon yn y gwanwyn, sy’n denu rhai o brif athletwyr y DU, yn cael ei rhedeg yng nghanol Bae hanesyddol Caerdydd.

Mae’r cwrs 10K yn pasio holl dirnodau mwyaf eiconig Caerdydd, gan ddechrau a gorffen ym Mhlas Roald Dahl ar ôl pasio Canolfan Mileniwm Cymru, Mermaid Quay, Adeilad y Pierhead, y Senedd, Porth Teigr a Morglawdd Bae Caerdydd.

HER RHEOLI DELL TECHNOLOGIES

Ddiwrnod Ras Hwyl

6-8 Mehefin 2024

https://www.managementchallenge.co.uk/

Mae Her Rheoli Dell Technologies yn ddigwyddiad cystadleuol 4-dimensiwn unigryw sy’n anelu at wella perfformiad y tîm rheoli, a sicrhau canlyniadau elusennol cadarnhaol.

  1. Ras Antur 2 ddiwrnod (canŵio, beicio mynydd, rhedeg, heicio, darllen map, saethyddiaeth a phosau.)
  2. Datblygu sgiliau rheoli, cyfle i gydweithio ar her reoli gyfoes a defnyddio’r dysgu er budd eich sefydliad. Bydd hwn yn ymarfer astudiaeth achos wedi’i ategu gan sesiwn â siaradwr gwadd. Bydd yr astudiaethau achos yn cael eu hasesu gan academydd blaenllaw o ysgol fusnes.
  3. Cyfleoedd a fforymau ar gyfer rhwydweithio ar lefel uwch.
  4. Codi arian i elusen.

Cynhelir y digwyddiad hwn o Racquety Farm, Y Gelli Gandryll, Y Mynydd Du, Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

10K Porthcawl Ogi

10K a Ras Iau

Dydd Sul 7 Gorffennaf 2024

https://www.porthcawl10k.co.uk/

Mae 10K Porthcawl Ogi yn ras gyffrous mewn tref sy’n enwog am syrffio, chwaraeon a llwybrau cerdded arfordirol, ac mae’n rhan o Gyfres 10K R4W.

Yn fan poblogaidd yn ystod yr haf i bobl leol ac i ymwelwyr, mae Porthcawl yn enwog am ddisgleirio yng ngolau’r haul. Mae’r ras 10K yn cael ei rhedeg ar ffyrdd sydd wedi’u cau, gan basio nifer o dirnodau a mannau godidog ger y môr gan gynnwys Rest Bay, Traeth Treco, Coney Bay, canol lliwgar y dref, y Pafiliwn hanesyddol, a Goleudy eiconig Porthcawl.

Bydd amrywiaeth o weithgareddau chwaraeon eraill i deuluoedd a phlant ar y diwrnod hefyd – gan gynnwys Ras Hwyl i’r Teulu a fydd yn rhoi cyfle i’r genhedlaeth nesaf o athletwyr gymryd eu camau cyntaf yn y byd rhedeg.

CDF 10K

10K a Ras Iau

Dydd Sul 1 Medi 2024

https://www.cardiff10k.cymru/

Mae 10K Caerdydd wedi cael ei hychwanegu at bortffolio Rhedeg Dros Gymru (R4W) o ddigwyddiadau nodedig y byd athletau gyda chyfranogiadau enfawr.

Mae adfywiad y digwyddiad eiconig a hanesyddol hwn yn rhoi cyfle i filoedd o redwyr i lenwi strydoedd calon prifddinas Cymru, mewn râs sy’n prysur amlygu ei hun fel un o ddigwyddiadau rhedeg mwyaf y Deyrnas Unedig.

Cylchlythyr Rhedeg dros Gymru

I gael clywed cyhoeddiadau am ddigwyddiadau a’r newyddion diweddaraf: