


Mae’n bleser gennym gyhoeddi bod Caerdydd wedi ymuno â Lisbon, Prag, Copenhagen, Berlin a Valencia i ffurfio SUPERHALFS – cyfres ryngwladol newydd o rasys hanner marathon!
Chwech dinas hardd. Chwech ras anhygoel. Un bwriad campus. Mwynhau rhedeg. Teimlo gwefr y teithio. A gorfoledd y llwyddo!
Bydd y gyfres yn gyfle i redwyr brwd gymryd rhan yn eu hantur rhedeg eu hunain a chael eu gwobrwyo am eu hymdrechion gyda manteision a gwobrau arbennig fel mynediad wedi’i warantu, nwyddau unigryw, e-stampiau mewn pasbort rhithwir a medal arbennig am gyflawni’r pum ras!
Dewiswyd y rasys yn seiliedig ar eu hansawdd, eu poblogrwydd, eu lleoliad a’u ymrwymiadau i gynaliadwyedd. Mae gan bob un labeli Athletau’r Byd (IAAF) ac mae Copenhagen, Caerdydd a Valencia wedi cynnal Pencampwriaethau Hanner Marathon y Byd IAAF yn ddiweddar.
Dilynwch SuperHalfs ar Twitter, Facebook ac Instagram i gael yr holl wybodaeth ddiweddaraf ac i glywed rhagor o gyhoeddiadau cyffrous yn y dyfodol.
Ydych chi am fentro?
