Dydd Sul 5 Hydref 2025
Mae Hanner Marathon Caerdydd wedi tyfu i fod yn un o’r rasys ffordd mwyaf cyffrous a phoblogaidd yn Ewrop. Hwn yw’r ail hanner marathon mwyaf yn y DU a dyma’r digwyddiad mwyaf yng Nghymru o ran codi arian ar ran elusennau amrywiol.
Ffioedd Cofrestru
Category | Price* |
Cofrestru Cynnar | Gwerthu Allan |
Cofrestru Cyffredinol | Gwerthu Allan |
Cofrestru Cyswllt (ar gyfer rhedwyr sy’n aelodau cyswllt o Cymru, England, Scotland ac NI Athletics | Gwerthu Allan |
Ymgeisydd Rhyngwladol | Gweld mwy |
Dwbwl Pellter Hir Cymru (+ Marathon Casnewydd Cymru) | Gwerthu Allan |
Codi Arian ar ran NSPCC (Cofrestru Cynnar) | Gwerthu Allan |
Codi Arian ar ran NSPCC | £10 |
Hanner Caerdydd Iau | Gweld mwy |
Parcio (Stadiwm Pêl-droed Dinas Caerdydd) | Gweld mwy |
*Bydd LDT, sy’n rheoli ein system gofrestru ar-lein, yn codi ffi weinyddol na ellir ei had-dalu ar ben y ffi gofrestru. Bydd angen i chi ddarparu rhif cofrestru Athletau’r DU i ddilysu disgowntiau ar gyfer aelodau cyswllt. Dydy LDT, darparwr ein platfform cofrestru ddim yn cynnig gwasanaeth Cymraeg ar hyn o bryd. Rydyn ni’n gweithio gyda nhw ar y mater, ac yn gobeithio gallu cynnig y gwasanaeth yn Gymraeg yn fuan.
Rhedeg ar ran Elusen
Mae elusennau wrth wraidd Hanner Marathon Caerdydd Cymdeithas Adeiladu Principality lle bydd llawer o bobl yn codi arian ar gyfer achosion da teilwng. Mae gwybod eich bod wedi helpu eraill drwy redeg y ras yn gwneud i chi deimlo boddhad enfawr ar ôl gorffen – ac yn eich ysgogi i ddal ati wrth hyfforddi ar ei chyfer.
Rydyn ni’n annog rhedwyr i godi arian ar ran ein Prif Bartner Elusennol, sef NSPCC, neu un o’n Partneriaid Elusennol Cyswllt – ond eich penderfyniad chi yw hyn! Unwaith y bydd yr holl lefydd Cofrestru Cyffredinol wedi’u gwerthu, dim ond llefydd drwy elusennau swyddogol fydd ar ôl.
Beth sydd wedi’i gynnwys yn eich ffi gofrestru?
- Pecyn ras a gaiff ei bostio atoch chi sy’n cynnwys llyfryn am benwythnos y ras, canllaw i wylwyr, rhif rhedeg a sglodyn amseru.
- Digwyddiad wedi’i drefnu’n dda, gyda llwybr wedi’i stiwardio’n llwyr ar hyd ffyrdd sydd wedi cau.
- Y cyfle i gael eitemau o safon i gofio am y ras, yn cynnwys medal a chrys-T (i’w casglu ar ôl gorffen y ras).
- Y cyfle i gael cyngor a chymorth defnyddiol ynghylch hyfforddi drwy wefan ac e-gylchlythyrau’r digwyddiad.
- Mynediad i gyfleusterau’r digwyddiad, yn cynnwys toiledau.
- Adloniant ar y cwrs a cherddoriaeth fyw ar hyd y llwybr.
- Dŵr a chynhyrchion maethlon yn y gorsafoedd egni ar hyd y llwybr.
- Y defnydd o ap Run 4 Wales i dracio eich perfformiad yn fyw.
- Neges destun ar ôl gorffen y ras sy’n nodi eich amser gorffen (os ydych chi wedi rhoi eich rhif ffôn symudol).
- Mynediad i Bentref y Digwyddiad gyda manwerthwyr, bwyd stryd ac adloniant byw.
- Rhedwyr pennu cyflymder disgwyliedig ym mhob ton gychwyn.
Newid eich manylion a throsglwyddo eich lle
Os hoffech newid eich cofrestriad (cyfeiriad, amser disgwyliedig, maint crys-T ac ati) neu os nad ydych chi’n gallu rhedeg mwyach a hoffech drosglwyddo eich lle i rywun arall, mae gennych chi tan y dyddiad olaf ar gyfer trosglwyddo i wneud y newidiadau.
Mae manylion llawn ar gael drwy glicio isod neu drwy ddarllen eich e-bost cadarnhau.
Telerau Cymryd Rhan
- Mae’n rhaid i’r cyfranogwyr fod yn 17 oed neu’n hŷn ar ddiwrnod y digwyddiad.
- Pan fyddant yn cofrestru, bydd rhaid i bob cyfranogwr gytuno i’n telerau ac amodau.
- Mae’n rhaid i’r cyfranogwyr gwblhau’r 13.1 milltir o fewn 4 awr 30 munud.
- Gellir defnyddio enwau a/neu fideos neu ffotograffau a gaiff eu tynnu yn ystod y ras i roi cyhoeddusrwydd i Hanner Marathon Caerdydd/Prifysgol Caerdydd neu ddigwyddiadau eraill Rhedeg dros Gymru.
- Ni ellir trosglwyddo rhifau ras y cyfranogwyr na’u gwerthu i unrhyw berson arall. Rydyn ni’n cynnig gwasanaeth trosglwyddo i bob rhedwr tan y dyddiad olaf ar gyfer trosglwyddo.
- Bydd y cyfnod cofrestru yn dod i ben ar y dyddiad a gyhoeddir ar wefan y digwyddiad.
- Ni ddylai cyfranogwyr fod o dan ddylanwad cyffuriau nac alcohol
- Rhaid i gyfranogwyr fod yn ffit i redeg ac yn ddianaf.
- Yn ddieithriad, ni all cyfranogwyr gasglu eu pecyn ras ar ôl yr amser penodedig.