Hanner Marathon Caerdydd

Mae’r NSPCC yn falch iawn o fod yn brif bartner elusennol Hanner Marathon Caerdydd Principality.

Rydyn ni’n arwain y frwydr yn erbyn cam-drin plant yng Nghymru a ledled y DU ac Ynysoedd y Sianel. Rydyn ni’n helpu plant sydd wedi cael eu cam-drin i ailadeiladu eu bywydau, rydyn ni’n amddiffyn plant mewn perygl ac yn canfod y ffordd orau o atal cam-drin plant rhag digwydd. Rhedwch ar ran Tîm NSPCC, oherwydd bydd pob cam, pob milltir, yn helpu i gadw pob plentyn yn ddiogel.

Pam ymuno â #TîmNSPCC?

Nodir isod rai o’r rhesymau gwych dros ymuno â Thîm NSPCC a fydd yn gwneud eich profiad yn Hanner Marathon Caerdydd Cymdeithas Adeiladu Principality yn werth chweil:

  • Cynllun hyfforddi personol ar gyfer pob un sy’n rhedeg ar ran yr NSPCC yn seiliedig ar eich profiad, eich ffitrwydd a’ch targed
  • Diwrnod hyfforddi NSPCC gyda thîm o hyfforddwyr arbenigol
  • Cymuned Facebook i rannu awgrymiadau hyfforddi a phrofiadau gyda phawb yn y tîm
  • Gwybod eich bod chi’n rhan o dîm 800+ ar ddiwrnod y ras gyda phawb yn rhedeg i’n helpu i frwydro dros bob plentyndod
  • Ardaloedd cefnogi penodol o amgylch y cwrs ar ddiwrnod y ras i roi hwb i chi gyrraedd y llinell derfyn
  • Derbyniad bwyd a lluniaeth ar ôl y ras sy’n addas i deuluoedd.

*Bydd ACTIVE, sy’n rheoli ein system gofrestru ar-lein, yn codi ffi weinyddol ar ben y ffi gofrestru.  Ni ellir ad-dalu’r ffi hon.

 

Wedi cael lle yn Hanner Marathon Caerdydd Principality yn barod?

Gallwch ymuno â Thîm NSPCC o hyd heb osod targed codi arian. Y cyfan rydyn ni’n ei ofyn yw eich bod chi’n codi cymaint o arian â phosibl i gefnogi’r NSPCC a’i gwasanaethau.  Cliciwch yma i roi gwybod i ni eich bod eisiau ymuno â’r tîm!