Hanner Marathon Caerdydd

Hanner Marathon Caerdydd Principality

6 Hydref 2024

Mae Hanner Marathon Caerdydd Cymdeithas Adeiladu Principality wedi tyfu i fod yn un o’r rasys ffordd mwyaf cyffrous a phoblogaidd yn y Deyrnas Unedig, ac mae bob amser yn argoeli i fod yn ddigwyddiad penigamp.  Erbyn hyn, mae’n un o’r rasys hanner marathon mwyaf poblogaidd yn Ewrop a dyma’r digwyddiad mwyaf yng Nghymru o ran cyfranogiad torfol a chodi arian ar ran elusennau amrywiol.

Mae’r digwyddiad wedi tyfu’n sylweddol ers iddo gael ei sefydlu gan Barnardo’s yn 2003 pan gymerodd 1,500 o redwyr ran. Mae bellach yn denu mwy na 27,500 o redwyr cofrestredig ochr yn ochr ag athletwyr o’r radd flaenaf fydd yn cystadlu mewn tair ras ffyrnig elit i ferched, dynion a chadeiriau olwyn.  Mae’n cynnal Pencampwriaethau Hanner Marathon Cymru bob blwyddyn ac mae hefyd wedi cynnal Pencampwriaethau Hanner Marathon y Byd (2016) a’r Gymanwlad (2018).

Wedi’i gwobrwyo Label Ras Ffordd gan Athletau’r byd.

Mae’r ras yn aelod o’r SuperHalfs, cyfres fyd-eang o rasys hanner marathon pwysicaf y byd, sy’n cynnwys rasys yn Lisbon, Prag, Copenhagen, Caerdydd a Valencia.

Mae ei chwrs gwastad, cyflym yn pasio holl olygfeydd mwyaf trawiadol a thirnodau mwyaf eiconig y ddinas yn cynnwys Castell Caerdydd, Stadiwm Principality, y Ganolfan Ddinesig a Bae Caerdydd.

Bydd miloedd o bobl yn dod i wylio a chefnogi’r rhedwyr mewn dinas sy’n enwog am fod yn angerddol am chwaraeon.  Mae Caerdydd yn brifddinas brysur sy’n cynnig atyniadau unigryw, stadia chwaraeon o’r radd flaenaf, adloniant bywiog, bwytai ar lan y dŵr a pharciau diddiwedd.

Mae’r digwyddiad nawr yn cynnig penwythnos prysur o weithgareddau sy’n addas i deuluoedd yn yr Ŵyl Rhedeg ddydd Sadwrn cyn yr hanner marathon ddydd Sul. Caiff ei threfnu gan Rhedeg dros Gymru, ymddiriedolaeth elusennol ddielw a sefydlwyd i reoli a darparu digwyddiadau chwaraeon yng Nghymru.