Codwch fwy byth o arian gyda Phecyn Elusen Hanner Marathon Caerdydd Cymdeithas Adeiladu Principality.
Mae codi arian ar ran elusen wrth wraidd Hanner Marathon Caerdydd Cymdeithas Adeiladu Principality, a bydd miloedd o redwyr yn cymryd rhan ac yn codi arian ar gyfer ystod eang o elusennau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol.
Dyma’r digwyddiad codi arian mwyaf yng Nghymru o hyd, gyda dros £3 miliwn yn cael ei godi bob blwyddyn. Mae ei gwrs gwastad, cyflym ac eiconig yn denu athletwyr elit sy’n gobeithio torri record yn ogystal ag unigolion sy’n awyddus i ddilyn ôl troed y pencampwyr. Mae’r ras yn gwerthu allan ymhell ymlaen llaw, gan roi o leiaf chwe mis clir lle mai dim ond llefydd ar ran elusennau sydd ar ôl.
Mae’n blatfform gwych ar gyfer codi arian gyda 30% yn rhedeg dros achosion da ar hyn o bryd gan godi £412, ar gyfartaledd, drwy JustGiving.
Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal bob blwyddyn ddechrau mis Hydref – gan ddenu 27,500 o redwyr i brifddinas Cymru – gyda dros 50% yn ei redeg am y tro cyntaf.
Mae gan ein pecynnau elusen amrywiaeth o fanteision a chynigion arbennig i’ch helpu i godi cymaint o arian â phosibl ar ran eich elusen. Mae ein partneriaeth â JustGiving yn helpu’r rhedwyr i godi cymaint o arian â phosibl i’w helusen. Caiff technoleg JustGiving ei hintegreiddio â’r platfform ar-lein ar gyfer cofrestru ar gyfer y ras a defnyddir adnoddau JustGiving i helpu elusennau i ganfod negeseuon allweddol a’r adegau gorau i annog pobl i greu eu tudalennau codi arian eu hunain ac i ymgysylltu â’u noddwyr. Hefyd, mae’r adnoddau dadansoddi amrywiol sydd ar gael yn golygu bod yr elusennau yn gallu monitro’r gweithgarwch codi arian cyn y digwyddiad.
I gael rhagor o wybodaeth, neu i ofyn am lyfryn, cysylltwch â Deborah Powell ar 02921 660 790 neu anfonwch e-bost i [email protected]