CLICIWCH YMA I LAWRLWYTHO NEU EHANGU MAP LLAWN O’R FFYRDD FYDD AR GAU
- Cofiwch ganiatáu amser ychwanegol i deithio ar ddiwrnod y ras.
- Bydd llwybrau tramwy agored (wedi’u nodi mewn gwyrdd) ar agor drwy’r dydd. Ceisiwch ddilyn y rhain pan fyddwch chi’n mynd o amgylch y ddinas.
- Gwnewch nodyn o amseroedd agor y ffyrdd sydd wedi’u nodi ar y map. Bydd nifer o’r ffyrdd a ddefnyddir ar gyfer y cwrs ar agor o fewn awr neu ddwy i ddechrau’r ras, am 9am. Bydd hyn yn arwain at agor ardaloedd mawr yn y ddinas.
- Cynlluniwch eich llwybr ymlaen llaw, a byddwch yn ymwybodol o ardaloedd a fydd o bosib yn brysur.
- Byddwch yn ofalus mewn ardaloedd lle mae’r ffyrdd yn cael eu rhannu (fel sydd wedi’u nodi ar y map). Dyma ble mae llwybr y ras yn cyrraedd y ffyrdd agored.
- Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau neu bryderon am unrhyw rai o’r ffyrdd a fydd ar gau, anfonwch e-bost at [email protected] neu ffoniwch 02921 660790