Hanner Marathon Caerdydd

Coopah App

Coopah x R4W

Newydd ddechrau rhedeg, neu ddim yn siŵr ble i ddechrau wrth weithio tuag at bellter? Mae ein cynlluniau hyfforddi’n berffaith i ddechreuwyr sy’n chwilio am gyngor ar sut i strwythuro eu hymdrechion wrth weithio tuag at bellter penodol.

Cynlluniau Hyfforddi Healthy Habits

Cynlluniau Hyfforddi

Mae ein rhaglenni hyfforddi yn ganllawiau delfrydol i’ch helpu gyda’ch hyfforddiant.  Mae tri chynllun hyfforddi 10 wythnos gwahanol ar gael ar gyfer yr hanner marathon – felly rhywbeth ar gyfer pob gallu.

Mae ein Cynlluniau Hyfforddi yn esbonio popeth ac yn cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol am brif elfennau rhaglen hyfforddi a chanllaw ar sut mae gwneud y mwyaf o’ch hyfforddiant.

Rhedeg Cymdeithasol a Chefnogaeth

Rhedeg Cymru

Mae Rhedeg Cymru yn rhaglen rhedeg cymdeithasol newydd wedi’i datblygu i ‘ysbrydoli, annog a chefnogi’ pob oedolyn yng Nghymru i redeg. Mae rhedeg yn rhad ac am ddim a gall pawb ei wneud! Mae pob ymdrech yn cyfrif ac nid yw’r un rhediad yn rhy fyr – mae Rhedeg Cymru yma i ddathlu unigolion a grwpiau sy’n rhedeg, yn loncian ac yn rhedeg tuag at ffordd fwy gweithgar o fyw.

Felly waeth beth fo’ch oed, lefel ffitrwydd, dyhead, cefndir neu leoliad, gall pawb fod yn rhan o Rhedeg Cymru! Os oes gennych chi ddiddordeb mewn dechrau rhedeg, mae Rhedeg Cymru yma i’ch cefnogi ar bob cam a’ch croesawu i fod yn rhan o’r gymuned rhedeg yng Nghymru.

Ryseitiau Iach

Mae maethu yn agwedd hanfodol o’ch hyfforddiant. Sicrhewch y gorau o’ch paratoadau gyda chynlluniau maethu a ryseitiau i helpu cyrraedd eich nod.

Cyngor Meddygol

 

Ffit i Redeg?

Mae rhedeg am ddim, gallwch ei wneud unrhyw le ac mae’n llosgi mwy o galorïau nag unrhyw ymarfer corff prif ffrwd arall.

Gall rhedeg yn rheolaidd leihau eich risg o salwch hirdymor fel clefyd y galon, diabetes math 2 a strôc.  Gall wella eich hwyliau hefyd a’ch helpu i reoli eich pwysau.

Darllenwch y cyngor hwn ar osgoi salwch neu anaf a gwnewch yn siŵr nad ydych chi’n gwthio eich hun y tu hwnt i’ch gallu.  Os oes gennych chi unrhyw bryderon, ewch at eich meddyg cyn penderfynu rhedeg.