
Dydd Sadwrn 3 Hydref 2021, Cardiff City Hall
Mae Hanner Marathon Caerdydd/Prifysgol Caerdydd yn fwy na dim ond 13 milltir ar fore Sul! Bydd y cyffro rhedeg yn cychwyn fore Sadwrn gyda diwrnod llawn gweithgareddau hwyl, adloniant a rasys i bob oed a gallu.
Gyda wynebau hapus, gwisg ffansi ac awyr las hyfryd (gobeithio), bydd Gŵyl Rhedeg Prifysgol Caerdydd yn gychwyn cyffrous, unwaith eto, i benwythnos Hanner Marathon Caerdydd/Prifysgol Caerdydd.
Does dim pwysau i redeg yn gyflym, na hyd yn oed rhedeg yr holl ffordd. Yn hytrach, gwisgwch eich gwisg ffansi orau, dewch â gweddill eich teulu a’ch ffrindiau gyda chi, a mwynhewch y profiad. Bydd digon i’ch cadw chi i fynd yr holl ffordd, gydag awyrgylch bywiog a chefnogaeth dda gan y dyrfa. Byddwch chi wedi cwblhau’r cwrs ymhen dim ac yn wên o glust i glust.
Rydyn ni’n annog pobl i redeg ar ran ein partner elusennol NSPCC. Os byddwch chi’n dewis rhedeg ar ran #TîmNSPCC byddwch chi’n rhedeg i ailadeiladu bywydau plant sydd wedi cael eu cam-drin yn y DU. Fel tîm, byddwch yn atal mwy o gam-drin ac esgeulustod.
Rhaid i chi gofrestru cyn dydd Gwener 3 Medi am hanner nos i dderbyn eich pecyn rasio yn y post.

Ras y Masgotiaid
Amser: 11:00yb
Dewch i gefnogi’ch hoff fasgot wrth iddo gystadlu am y brif wobr yn ein ras 100m ar gyfer masgotiaid. Roedd y gystadleuaeth yn frwd iawn y llynedd, ac eleni, bydd llawer ohonynt yn ôl i fynd benben â rhai o’r masgotiaid gorau yn y maes.

Ras Plant Bach er budd NSPCC
Amser: 11:15yb
Pris: Rhodd o £2 i NSPCC, ein partner elusennol.
Ras 50m hwyl i blant tair oed ac iau o flaen Neuadd y Ddinas, Caerdydd.

Ras Hwyl i’r Teulu Prifysgol Caerdydd
Amser: 12:00yp
Pris: £9 i unigolion (£7.50 pris cynnar tan Mawrth 1) £30 i grŵp o 4
Pellter: 2.4km
Llwybr: 2 lap o amgylch Canolfan Ddinesig Caerdydd, yn cychwyn y tu allan i Neuadd y Ddinas
Thema Gwisg Ffansi: Dewiswch chi! Bydd gennych chi ddewis I bleidleiso am ‘Gofod Allanol’ neu ‘O Gwmpas y Byd’ os ydych yn cofrestru cyn Mawrth 2il.
Rhagor o Wybodaeth

Amser Stori Ddwyieithog
Amser: TBC
Dewch â’ch blancedi ac ymunwch â ni am bicnic a stori ar ôl y Ras Hwyl i’r Teulu!

Cerddoriaeth, Peintio Wynebau, Bwyd, Chwaraeon ac Adloniant
Drwy gydol y dydd, bydd cymysgedd cyffrous o gerddoriaeth fyw, adloniant a bwyd at ddant pawb. Felly hyd yn oed os nad ydych chi’n cymryd rhan yn unrhyw un o’r digwyddiadau hyn, bydd digon i’w weld a’i wneud. Os oes gennych chi a’ch teulu egni i’w losgi o hyd, bydd llwyth o weithgareddau chwaraeon i roi cynnig arnynt ynghyd â wal fowldro.
Canlyniadau’r
2019 – Cliciwch yma
2018 – Cliciwch yma
2017 – Cliciwch yma