Hanner Marathon Caerdydd

Cofrestru ar gyfer y Ras

Mae’n rhaid i bawb sy’n cofrestru ar gyfer yr hanner marathon fod yn 17 oed neu’n hŷn ar ddiwrnod y ras. Gall rhedwyr iau gymryd rhan yn y Ras Hwyl i’r Teulu a’r Ras Plant Bach fel rhan o’r Ŵyl Rhedeg sy’n cael ei chynnal ddiwrnod ynghynt.

Mae’r ffioedd cofrestru ar gael ar ein tudalen gofrestru. Mae prisiau gwahanol ar gyfer cofrestriadau Cyffredinol, Aelodaeth Gyswllt ac Athletau Cymru. I gael disgownt fel athletwr ag aelodaeth gyswllt, bydd angen i chi ddarparu enw eich clwb rhedeg a rhif aelodaeth Athletau’r DU. Gallwch gael disgownt hefyd drwy nifer o’n partneriaid elusennol.

Gallwch gofrestru ar gyfer Hanner Marathon Caerdydd Wizz Air tan Mis Medi 2022.

Os ydych chi wedi cofrestru ar-lein, byddwch yn cael e-bost cadarnhau yn fuan wedyn. Os nad ydych chi wedi cael yr e-bost hwn, cysylltwch â ni.

Bydd pob rhedwr sydd wedi cael ei dderbyn i’r ras yn cael pecyn ras drwy’r post a fydd yn cynnwys gwybodaeth bwysig am y ras, rhif ras a sglodyn amseru. Bydd yn cyrraedd o fewn 7 diwrnod i’r digwyddiad fan bellaf. Os nad yw’n cyrraedd erbyn hynny, anfonwch e-bost i [email protected] ar y dydd Gwener cyn y ras a byddwn yn trefnu bod pecyn arall ar gael i chi ei gasglu ar y diwrnod. Ni allwn roi pecynnau newydd i chi tan y dyddiad hwn, felly arhoswch tan hynny cyn cysylltu â ni, er mwyn caniatáu digon o amser i’ch pecyn gyrraedd. Peidiwch â phoeni, os ydych chi wedi cael e-bost cadarnhau a’ch bod yn cysylltu â ni ar y dydd Gwener cyn y digwyddiad, fe fyddwch chi dal yn gallu cymryd rhan.

Mae gennych chi hawl i gael ad-daliad o fewn y pythefnos cyntaf i gofrestru (y cyfnod newid meddwl). Ar ôl hyn, ni allwn roi ad-daliadau i chi na gohirio eich lle tan y flwyddyn nesaf. Gallwch drosglwyddo eich lle i ffrind hyd at y dyddiad olaf ar gyfer trosglwyddo. Ewch i’r dudalen ‘trosglwyddo eich lle’ ar ein gwefan am ragor o fanylion. Nid yw’r cyfnod newid meddwl yn berthnasol yn ystod y pythefnos cyn y dyddiad olaf ar gyfer cofrestru, gan y bydd pecynnau’r ras yn cael eu cynhyrchu ar unwaith er mwyn sicrhau eich bod yn eu cael mewn da bryd cyn y digwyddiad – felly dim ond os ydych chi’n siŵr eich bod yn gallu cymryd rhan ar y cam hwn y dylech chi gofrestru. Sylwer: Ddylech chi byth gyfnewid eich rhif ras ag unrhyw redwr arall heb ddefnyddio’r gwasanaeth trosglwyddo swyddogol drwy ein system gofrestru, oherwydd gallai hyn achosi problemau i’n timau meddygol a’r gwasanaeth canlyniadau. Bydd hefyd yn annilysu yswiriant os bydd y person sy’n rhedeg gyda’ch rhif mewn damwain. Os bydd trefnwyr y ras yn dod i wybod am unrhyw bobl sy’n cyfnewid eu rhifau ras, byddant yn eu gwahardd ac yn hysbysu Athletau Prydain.

Does gennym ni ddim rhestr aros ac ni fyddwn yn llenwi llefydd pobl sy’n tynnu allan. Bydd nifer y rhedwyr a dderbyniwn yn cael ei gyfrifo yn seiliedig ar nifer y bobl rydyn ni’n disgwyl iddyn nhw dynnu allan, sy’n ffigur cyson o flwyddyn i flwyddyn.

ACTIVE sy’n rheoli ein system gofrestru ar-lein. Bydd angen cyfrif ACTIVE arnoch er mwyn cofrestru. Gallwch ddefnyddio’r cyfrif hwn i weinyddu eich cofrestriad neu ei newid yn nes ymlaen. Sylwer, mae’n rhaid i bawb sydd dros 18 oed greu eu cyfrif ACTIVE unigol eu hunain cyn cofrestru (ni allwch gofrestru rhywun arall o dan eich cyfrif) er mwyn cytuno i’n telerau ac amodau. Mae’n rhaid i unrhyw rai o dan 18 oed ddod o hyd i oedolion i gofrestru ar eu rhan drwy eu cyfrif ACTIVE nhw. Pan fydd y ffurflen gofrestru’n gofyn “who is this entry for?” (dewiswch “someone else, under 18”).

Mae’n rhaid i bawb sy’n cofrestru ar gyfer yr hanner marathon fod yn 17 oed neu’n hŷn ar ddiwrnod y ras. Gall rhedwyr iau gymryd rhan yn y Ras Hwyl i’r Teulu a’r Ras Plant Bach fel rhan o’r Ŵyl Rhedeg sy’n cael ei chynnal ddiwrnod ynghynt.

Mae’r ffioedd cofrestru ar gael ar ein tudalen gofrestru. Mae prisiau gwahanol ar gyfer cofrestriadau Cyffredinol, Aelodaeth Gyswllt ac Athletau Cymru. I gael disgownt fel athletwr ag aelodaeth gyswllt, bydd angen i chi ddarparu enw eich clwb rhedeg a rhif aelodaeth Athletau’r DU. Gallwch gael disgownt hefyd drwy nifer o’n partneriaid elusennol.

Gallwch gofrestru ar gyfer Hanner Marathon Caerdydd tan Mis Awst 2023.

Os ydych chi wedi cofrestru ar-lein, byddwch yn cael e-bost cadarnhau yn fuan wedyn. Os nad ydych chi wedi cael yr e-bost hwn, cysylltwch â ni.

Bydd pob rhedwr sydd wedi cael ei dderbyn i’r ras yn cael pecyn ras drwy’r post a fydd yn cynnwys gwybodaeth bwysig am y ras, rhif ras a sglodyn amseru. Bydd yn cyrraedd o fewn 7 diwrnod i’r digwyddiad fan bellaf. Os nad yw’n cyrraedd erbyn hynny, anfonwch e-bost i [email protected] ar y dydd Gwener cyn y ras a byddwn yn trefnu bod pecyn arall ar gael i chi ei gasglu ar y diwrnod. Ni allwn roi pecynnau newydd i chi tan y dyddiad hwn, felly arhoswch tan hynny cyn cysylltu â ni, er mwyn caniatáu digon o amser i’ch pecyn gyrraedd. Peidiwch â phoeni, os ydych chi wedi cael e-bost cadarnhau a’ch bod yn cysylltu â ni ar y dydd Gwener cyn y digwyddiad, fe fyddwch chi dal yn gallu cymryd rhan.

Mae gennych chi hawl i gael ad-daliad o fewn y pythefnos cyntaf i gofrestru (y cyfnod newid meddwl). Ar ôl hyn, ni allwn roi ad-daliadau i chi na gohirio eich lle tan y flwyddyn nesaf. Gallwch drosglwyddo eich lle i ffrind hyd at y dyddiad olaf ar gyfer trosglwyddo. Ewch i’r dudalen ‘trosglwyddo eich lle’ ar ein gwefan am ragor o fanylion. Nid yw’r cyfnod newid meddwl yn berthnasol yn ystod y pythefnos cyn y dyddiad olaf ar gyfer cofrestru, gan y bydd pecynnau’r ras yn cael eu cynhyrchu ar unwaith er mwyn sicrhau eich bod yn eu cael mewn da bryd cyn y digwyddiad – felly dim ond os ydych chi’n siŵr eich bod yn gallu cymryd rhan ar y cam hwn y dylech chi gofrestru. Sylwer: Ddylech chi byth gyfnewid eich rhif ras ag unrhyw redwr arall heb ddefnyddio’r gwasanaeth trosglwyddo swyddogol drwy ein system gofrestru, oherwydd gallai hyn achosi problemau i’n timau meddygol a’r gwasanaeth canlyniadau. Bydd hefyd yn annilysu yswiriant os bydd y person sy’n rhedeg gyda’ch rhif mewn damwain. Os bydd trefnwyr y ras yn dod i wybod am unrhyw bobl sy’n cyfnewid eu rhifau ras, byddant yn eu gwahardd ac yn hysbysu Athletau Prydain.

Does gennym ni ddim rhestr aros ac ni fyddwn yn llenwi llefydd pobl sy’n tynnu allan. Bydd nifer y rhedwyr a dderbyniwn yn cael ei gyfrifo yn seiliedig ar nifer y bobl rydyn ni’n disgwyl iddyn nhw dynnu allan, sy’n ffigur cyson o flwyddyn i flwyddyn.

ACTIVE sy’n rheoli ein system gofrestru ar-lein. Bydd angen cyfrif ACTIVE arnoch er mwyn cofrestru. Gallwch ddefnyddio’r cyfrif hwn i weinyddu eich cofrestriad neu ei newid yn nes ymlaen. Sylwer, mae’n rhaid i bawb sydd dros 18 oed greu eu cyfrif ACTIVE unigol eu hunain cyn cofrestru (ni allwch gofrestru rhywun arall o dan eich cyfrif) er mwyn cytuno i’n telerau ac amodau. Mae’n rhaid i unrhyw rai o dan 18 oed ddod o hyd i oedolion i gofrestru ar eu rhan drwy eu cyfrif ACTIVE nhw. Pan fydd y ffurflen gofrestru’n gofyn “who is this entry for?” (dewiswch “someone else, under 18”).

 

Mae’r prisiau Cyswllt ac Athletau Cymru ar gyfer rhedwyr sydd wedi cofrestru â chlwb athletau – rhaid nodi eich rhifau aelodaeth pan fyddwch chi’n cofrestru. Mae’r categori Cyffredinol ar gyfer rhedwyr nad ydynt wedi cofrestru â chlwb athletau. Bydd angen i chi roi eich rhif aelodaeth diweddaraf wrth gofrestru felly gwnewch yn siŵr ei fod wrth law a sicrhewch fod eich aelodaeth yn gyfredol.

Gallwch newid eich cofrestriad drwy fewngofnodi i’ch cyfrif yn https://myevents.active.com. Mae’r ddolen hon wedi’i chynnwys yn eich e-bost cadarnhau hefyd. Bydd angen i chi wneud unrhyw newidiadau erbyn ein dyddiad olaf ar gyfer trosglwyddo (fel newid cyfeiriad) i sicrhau ein bod yn gallu gweinyddu eich cofrestriad yn gywir.

Bydd yn cyrraedd o fewn 7 diwrnod i’r digwyddiad fan bellaf. Os ydych chi’n Rhedwr Tramor, bydd angen i chi ei gasglu o Bentref y Digwyddiad. Byddwn yn anfon e-bost at redwyr tramor yn nodi manylion yr amseroedd a’r lleoliadau ar gyfer codi pecyn y ras. Os nad yw eich pecyn ras yn cyrraedd yn y post, anfonwch e-bost i [email protected] ar y dydd Gwener cyn y ras a byddwn yn trefnu bod pecyn arall ar gael i chi ei gasglu ar y diwrnod. Ni allwn roi pecynnau newydd i chi tan y dyddiad hwn, felly arhoswch tan hynny cyn cysylltu â ni, er mwyn caniatáu digon o amser i’ch pecyn gyrraedd. Peidiwch â phoeni, os ydych chi wedi cael e-bost cadarnhau a’ch bod yn cysylltu â ni ar y dydd Gwener cyn y digwyddiad, fe fyddwch chi dal yn gallu cymryd rhan. Mae’r holl wybodaeth am y digwyddiad sydd wedi’i hamgáu yn y pecyn ar gael ar ein gwefan hefyd.

Bydd crysau-T yn cael eu dosbarthu ar ôl i chi gwblhau’r ras. Byddant wedi’u cynnwys yn eich bagiau nwyddau ar ôl i chi groesi’r llinell derfyn. Rhoddir medal i chi ar wahân. Drwy gofrestru ar gyfer y ras, bydd cyfle i chi gael crys-T a medal ar ôl gorffen y ras. Gallwch eu casglu ar ôl croesi’r llinell derfyn. Os na fyddwch yn dechrau’r ras nac yn gorffen y pellter cyfan, ni fyddwch yn gymwys i gasglu’r eitemau hyn ar gyfer rhedwyr sy’n gorffen y ras.

Fel y nodir yn y telerau ac amodau y cytunir iddynt wrth gofrestru, gall cyfranogwr dynnu allan am ddim (ac eithrio’r ffi brosesu a godir gan ACTIVE) hyd at bythefnos ar ôl talu ffi’r digwyddiad (oni bai eu bod yn cofrestru o fewn pythefnos i’r dyddiad cau gan y bydd yr holl becynnau’n dechrau cael eu cynhyrchu ar y pwynt yma). Os ydych chi’n tynnu allan o’r digwyddiad, rhaid hysbysu’r trefnwyr o hyn drwy anfon e-bost i [email protected] gan nodi’n glir eich bod yn dymuno tynnu allan a rhoi’r gair WITHDRAWAL yn llinell bwnc yr e-bost. Ni chewch dynnu allan dros y ffôn. Ar ôl i’r cyfnod o bythefnos ar ôl talu basio, ni fyddwn yn ad-dalu’r ffi gofrestru. Gall cyfranogwyr dynnu allan unrhyw adeg cyn y ras.

Does dim modd gohirio eich lle tan y flwyddyn nesaf nac i unrhyw ddigwyddiad arall – ond gallwch drosglwyddo eich lle i redwyr eraill (manylion uchod).

Gallwch drosglwyddo eich lle i ffrind hyd at y dyddiad olaf ar gyfer trosglwyddo. Codir ffi weinyddol o £5.80 am y gwasanaeth hwn a bydd angen i chi ddefnyddio ein system gofrestru ar-lein. Ewch i’r dudalen ‘trosglwyddo eich lle’ ar ein gwefan am ragor o fanylion. Ni fydd angen i chi gyfnewid arian â’r person rydych chi’n trosglwyddo eich lle iddo. Bydd angen i’r person hwn dderbyn eich trosglwyddiad ar-lein ac fe gewch chi ad-daliad (ar ôl tynnu’r ffi weinyddol) i’ch cerdyn talu. Sylwer: Ddylech chi byth gyfnewid eich rhif ras ag unrhyw redwr arall heb ddefnyddio’r gwasanaeth trosglwyddo swyddogol drwy ein system gofrestru, oherwydd gallai hyn achosi problemau i’n timau meddygol a’r gwasanaeth canlyniadau. Bydd hefyd yn annilysu yswiriant os bydd y person sy’n rhedeg gyda’ch rhif mewn damwain. Os bydd trefnwyr y ras yn dod i wybod am unrhyw bobl sy’n cyfnewid eu rhifau ras, byddant yn eu gwahardd ac yn hysbysu Athletau Prydain.

Active Network yw’r cwmni sy’n darparu ein system gofrestru; ni ellir ad-dalu’r ffi weinyddol a godir ganddynt ac mae’n wahanol i ffi gofrestru Rhedeg dros Gymru.

Gallwch newid eich cofrestriad drwy fewngofnodi i’ch cyfrif yn https://myevents.active.com. Mae’r ddolen hon wedi’i chynnwys yn eich e-bost cadarnhau hefyd. Bydd angen i chi wneud unrhyw newidiadau erbyn ein dyddiad olaf ar gyfer trosglwyddo. Os na fyddwch chi’n newid eich cyfeiriad, bydd eich pecyn ras yn cael ei anfon i’ch hen gyfeiriad, a chi fydd yn gyfrifol am ei gael yn ôl. Os bydd y preswylydd presennol yn dychwelyd eich pecyn atom, fe fyddwn yn rhoi gwybod i chi.

Byddwch yn cael eich rhannu i gorlan yn dibynnu ar eich amser gorffen disgwyliedig. Bydd ystod rhifau’r corlannau yn amrywio yn dibynnu ar gyfanswm y rhedwyr sydd wedi cofrestru, felly gall lliwiau’r corlannau amrywio o flwyddyn i flwyddyn, hyd yn oed pan fyddwch chi’n nodi’r un amser disgwyliedig wrth gofrestru. Yn anffodus, ni fydd yn bosibl newid eich corlan gychwyn, felly cofiwch lenwi eich ffurflen gofrestru’n ofalus i sicrhau eich bod yn cael eich rhannu i gorlan briodol. Caiff nifer y rhedwyr ym mhob corlan gychwyn ei chyfrifo’n ofalus i sicrhau bod nifer ddiogel o gyfranogwyr ym mhob un. Ni fydd yn bosibl symud ymlaen i gorlan gychwyn gynharach. Ond gallwch symud yn ôl os hoffech chi.

 

Rhedeg Y Ras

Mae’r hanner marathon yn 13.1 milltir neu’n 21.1km. Caiff ein cwrs ei fesur gan Fesurydd Cyrsiau Gradd 1 AUKCM/Gradd B AIMS/IAAF a bydd canlyniad eich amser gorffen yn cyfrif tuag at unrhyw bencampwriaeth neu feini prawf cymhwyso.

Fel y nodir yn y telerau ac amodau cofrestru, mae Hanner Marathon Caerdydd Wizz Air yn ras rhedeg a dylai pawb sy’n cymryd rhan wneud eu gorau glas i gwblhau’r cwrs o fewn 4 awr 30 munud. Er mwyn diogelu pawb sy’n cymryd rhan ac er mwyn sicrhau bod y ras yn tarfu cyn lleied â phosibl ar y ddinas, bydd pob ffordd yn ailagor ar ôl yr amser hwn. Drwy gydol y ras, bydd bws yn casglu’r rhedwyr yn y cefn nad ydynt yn gallu cadw at y cyflymder penodedig o 20 munud y filltir. Rydyn ni’n annog pawb i redeg gymaint â phosibl er mwyn cadw o fewn y cyflymder hwn.

Mae’r ras yn cychwyn y tu allan i Gastell Caerdydd ar Heol y Castell o 10am. Bydd y ras yn gorffen ar Rodfa Brenin Edward VII. Mae pentref y digwyddiad ar Lawnt Neuadd y Ddinas y tu allan i Neuadd y Ddinas Caerdydd.

Na fyddwch. Bydd y cwrs yn cael ei stiwardio drwyddi draw.

Bydd gennym ni ardaloedd meddygol ar hyd y cwrs.

Ni chewch ddod a chŵn, pramiau rhedeg, bygis babi, byrddau sglefrio, ffyn cerdded, llafnau rholio, beiciau llaw, esgidiau bownsio Kangoo, stilts, ffyn baglau, beiciau heb awdurdod nac unrhyw ddyfais arall ar olwynion ar y cwrs, ac eithrio cadeiriau olwyn a reolir â llaw yn y ras dorfol (mewn corlan benodedig a bennir gan y trefnydd). Os ydych chi’n awyddus i ddod ag unrhyw wisg ffansi neu eitemau swmpus gyda chi i’w cario fel rhan o’r sialens, bydd rhaid i gyfarwyddwr y ras gadarnhau a ydynt yn debygol o effeithio ar eich gallu i gwblhau’r ras o fewn 4 awr 30 munud neu o rwystro rhedwyr eraill.

Rhaid i chi fod yn 17 oed ar ddiwrnod y ras o leiaf.

Cewch, rydyn ni’n annog pobl i wisgo gwisg ffansi – maen nhw’n helpu i wneud y ras yn hwyl i wylwyr, i deuluoedd ac i redwyr eraill. Dylech roi gwybod i ni os yw eich gwisg yn swmpus er mwyn i gyfarwyddwr y ras benderfynu a yw’n debygol o effeithio ar eich gallu i gwblhau’r ras o fewn 4 awr 30 munud neu o rwystro rhedwyr eraill.

Dylech osgoi defnyddio clustffonau tra byddwch chi’n rhedeg er mwyn lleihau’r risg o anaf i chi’ch hun ac i redwyr eraill. Ni fydd y Trefnydd yn atebol am ddigwyddiadau a achosir o ganlyniad i ddefnyddio clustffonau sy’n rhwystro gwybodaeth neu rybuddion pwysig gan y gwasanaethau brys neu stiwardiaid y cwrs rhag cael eu rhannu.

Bydd, bydd pob rhedwr yn gallu storio un bag. Bydd union leoliad y cyfleusterau storio bagiau wedi’i argraffu yn llyfryn y ras a fydd wedi cael ei anfon atoch chi yn eich pecyn ras.

Rydyn ni’n croesawu cystadleuwyr mewn cadeiriau olwyn a reolir â llaw ond mae’r ffordd yn goleddfu am dipyn ar ôl 3 milltir ar Heol Penarth lle mae’r orsaf ddŵr gyntaf ac mae dringfa serth ar ôl 12 milltir ar Heol Fairoak am tua 300 metr. Mae’r rhannau hyn wedi peri trafferth i gystadleuwyr mewn cadeiriau olwyn yn y gorffennol a bu’n rhaid i rai fynd i fyny am yn ôl. Mae’n bwysig ein bod ni’n rhoi gwybod i chi am y nodweddion heriol hyn cyn y digwyddiad fel na chewch chi ormod o sioc ar y diwrnod. Er gwybodaeth, mae nifer o bonciau arafu o amgylch y cwrs, yn cynnwys ar hyd Penarth Portway ym Marina Penarth ar ôl 4 milltir ac o amgylch Llyn Parc y Rhath rhwng 10-12 milltir. Rydyn ni’n fwy na pharod i roi lle am ddim a bib llachar i redwr cymorth, os bydd angen un arnoch chi. Os felly, cysylltwch â [email protected] neu ffoniwch 029 2166 0790. Os ydych chi’n cymryd rhan heb redwr cymorth, rydyn ni’n argymell eich bod yn atodi baner ddiogelwch i’ch cadair olwyn, sy’n uwch na phen y rhedwyr er mwyn i’r dorf allu eich gweld chi. Sylwer nad oes system gefnogi ar gyfer problemau mecanyddol/pyncsiars ac ati o amgylch y cwrs. Os oes problem, dywedwch wrth eich stiward agosaf a fydd yn gallu eich helpu i gyrraedd yr ardal orffen pan fo’n ymarferol iddo/iddi wneud hyn. Nodwch amcan o’ch amser pan fyddwch chi’n cofrestru fel bod gennym ni syniad o’ch cyflymdra, er mwyn i ni wneud yn siŵr eich bod chi’n rhannu corlan gyda phobl sy’n rhedeg ar yr un cyflymdra â chi. Cofiwch ddweud wrthym os oes gennych chi unrhyw gwestiynau/ceisiadau arbennig – fe wnawn ein gorau glas i’ch helpu.

Rydyn ni’n fwy na pharod i roi lle am ddim a bib llachar i redwr cymorth, os bydd angen un arnoch chi. Os felly, cysylltwch â [email protected] neu ffoniwch 029 2166 0790

Nac oes. Dewch gyda’ch rhif ras yn sownd i’ch top, ac ewch at eich corlan gywir ar fore’r ras. Does dim angen i chi ddweud wrthym eich bod wedi cyrraedd, na mynd i’r Hwb Gwybodaeth am y Digwyddiad (oni bai bod gennych chi gwestiwn ar ein cyfer ni).

 

Rhedeg ar ran Elusen

Gallwch. Cysylltwch â’ch elusen ddewisol i gael ffurflenni noddi a chefnogaeth.

Nac oes, nid yw’n orfodol – eich penderfyniad chi yw hyn.

Gallwch redeg ar ran unrhyw elusen o’ch dewis. Does dim rhaid i’r elusen fod wedi’i rhestru ar ein tudalen o elusennau cysylltiedig er mwyn i chi godi arian ar ei chyfer (ar yr amod bod llefydd cyffredinol ar gael o hyd) – cofrestrwch ar gyfer y ras ac yna cysylltwch â’ch elusen ddewisol. Os bydd y ras wedi gwerthu allan, dim ond y llefydd cadw sydd ar gael drwy ein helusennau swyddogol fydd ar ôl, a bydd yn ofynnol i chi godi arian ar eu cyfer.

Mae ffurflenni noddi/dillad rhedeg ar gael gan eich elusen ddewisol yn uniongyrchol. Cysylltwch â nhw cyn gynted â phosibl.

 

Fe gewch chi ras wych, drefnus gyda chyfleusterau da a’r cyfle i redeg ar hyd ffyrdd sydd ar gau ac wedi’u stiwardio. Bydd eich ras yn cael ei amseru â sglodyn – felly byddwch chi’n cael canlyniad swyddogol ar ddiwedd y ras a bydd eich teulu a’ch ffrindiau yn gallu eich tracio chi’n fyw yn ystod y ras drwy ap Run 4 Wales. Bydd dŵr ac adloniant ar gael i chi ar hyd y cwrs a bydd cyfle i gael crys-T a medal ar ôl gorffen. Gallwch gasglu’r rhain ar ôl croesi’r llinell derfyn. Os na fyddwch yn cychwyn y ras nac yn gorffen y pellter cyfan, ni fyddwch yn gymwys i gasglu’r eitemau hyn ar gyfer rhedwyr sy’n gorffen y ras.

Mae manylion llawn yr holl ffyrdd fydd ar gau wedi’u nodi ar ein gwefan, yn yr adran ar gau ffyrdd.

Gallwch, bydd ffotograffwyr o amgylch y cwrs ond gyda chynifer o redwyr, ni allwn sicrhau y byddant yn tynnu eich llun chi. Bydd eu lluniau ar gael i’w prynu yn: www.marathon-photos.com

Bydd ardal benodol i deuluoedd gwrdd ym Mhentref y Digwyddiad. Bydd yr ardal hon wedi’i rhannu yn nhrefn yr wyddor yn ôl cyfenwau.

Caiff pawb sy’n cymryd rhan eu hannog i fwrw golwg ar y wefan hon gan y bydd gwybodaeth newydd yn parhau i gael ei hychwanegu tan ddiwrnod y ras. Os ydych chi’n dal i aros am ateb i’ch cwestiwn, mae croeso i chi gysylltu â ni.

Mae’r ras yn dibynnu ar ein gwirfoddolwyr brwdfrydig, sy’n cyflawni nifer o ddyletswyddau. Os nad ydych chi’n rhedeg, mae’n ffordd wych o sicrhau bod y digwyddiad yn llwyddiannus ac yn helpu i godi llawer o arian er mwyn i elusennau barhau i wneud eu gwaith hollbwysig. Os ydych chi’n fyfyriwr, mae hefyd yn brofiad ardderchog i’w roi ar eich CV ac yn beth hwyl i’w wneud gyda’ch ffrindiau. I gael rhagor o wybodaeth, anfonwch e-bost i [email protected]

Bydd nwyddau swyddogol ar gael i’w prynu ym Mhentref y Digwyddiad. Byddant ar gael i’w prynu hefyd ar siop Rhedeg dros Gymru ar ein gwefan.

Bydd eich canlyniadau swyddogol ar gael ar ôl y digwyddiad. Byddant wedi’u nodi yn yr e-bost fydd yn cael ei anfon atoch i’ch llongyfarch a gallwch eu gweld ar ap Run 4 Wales hefyd.

Dechreuodd Rhedeg dros Gymru reoli Hanner Marathon Caerdydd yn 2012. Mae canlyniadau pob ras o 2012 ymlaen ar gael ar ein gwefan, yn yr adran ‘Canlyniadau’r Ras’. Mae’r canlyniadau ar gyfer rasys 2011, 2010 a 2009 ar gael yma https://results.sporthive.com.

Mae croeso i chi gysylltu â ni os oes gennych chi unrhyw gwestiynau eraill:
[email protected] / 02921 660 790