Gall ymuno â chlwb rhedeg wella sut rydych chi’n rhedeg a helpu i’ch sbarduno chi drwy gydol eich hyfforddiant.
Mae ymuno â chlwb yn ffordd wych o gwrdd â phobl newydd, cymdeithasu a gwthio eich hun drwy redeg gyda phobl eraill. Gall clybiau fod yn ffynhonnell ardderchog o wybodaeth leol – p’un a ydych chi’n edrych am eich ras nesaf, y ffisiotherapydd gorau neu eisiau gwybod mwy am y llwybrau gorau yn eich ardal.
Gall llawer o glybiau gynnig cyngor hyfforddi i chi, neu gyfleoedd i roi cynnig ar sesiynau hyfforddi newydd.
Gall dod o hyd i’r clwb rhedeg addas fod yn dasg anodd, ond mae sawl adnodd ar gael i’ch helpu i benderfynu. Efallai y byddwch chi eisiau dod yn aelod cyswllt o glwb athletau, neu ddewis ymuno â grŵp rhedeg cymdeithasol mwy anffurfiol.
Athletau Cymru
Fel y corff llywodraethu cenedlaethol ar gyfer Athletau yng Nghymru, mae Athletau Cymru yn cefnogi rhwydwaith cynyddol o glybiau a’u haelodau drwy ddarparu strwythur cysylltu a chefnogi er mwyn sicrhau bod cyfleoedd diogel, hwyl a hygyrch ar gael i bawb gymryd rhan.
Mae dod yn aelod cyswllt o glwb yn golygu y gallwch chi gael disgownt wrth gofrestru ar gyfer digwyddiadau rhedeg trwyddedig.
Dewch o hyd i’ch clwb athletau lleol yng Nghymru a pha ddisgyblaethau athletau a grwpiau oedran maen nhw’n darparu ar eu cyfer.
Dod O Hyd I Glwb Athletau Yng NghymruRhedeg Cymru
Mae Rhedeg Cymru yn rhaglen rhedeg cymdeithasol newydd wedi’i datblygu i ‘ysbrydoli, annog a chefnogi’ pob oedolyn yng Nghymru i redeg.
Mae rhedeg yn rhad ac am ddim a gall pawb ei wneud! Mae pob ymdrech yn cyfrif ac nid yw’r un rhediad yn rhy fyr – mae Rhedeg Cymru yma i ddathlu unigolion a grwpiau sy’n rhedeg, yn loncian ac yn rhedeg tuag at ffordd fwy gweithgar o fyw.
Mae grwpiau rhedeg cymdeithasol cofrestredig Rhedeg Cymru ar gael ledled Cymru, felly cymerwch gip i weld a oes un yn lleol i chi a allai eich cefnogi! Neu, beth am ddechrau eich grŵp eich hun?
Dod O Hyd I Glwb Rhedeg CymdeithasolLive outside Wales? Check out England Athletics, Run Together, Scottish Athletics, Jog Scotland or Athletics NI to find a club near you.