Canlyniadau yn Fyw
Cofiwch daro golwg ar ein Traciwr Gwe ar ddiwrnod y ras er mwyn dilyn y canlyniadau’n fyw, tracio’r rhedwyr o amgylch y llwybr a gweld pwy sydd ar y blaen. Mae’r traciwr ar gael ar ap swyddogol Run 4 Wales hefyd ar iPhone ac Android.
SYLWER: Ni fydd y rhestrau cychwyn llawn ar gael ar yr ap tan fore’r ras, felly peidiwch â mynd i banig os na fyddwch chi’n gallu gweld eich enw cyn y digwyddiad.
Ap Run 4 Wales
Defnyddiwch ap swyddogol Run 4 Wales i astudio’r llwybr cyn y ras a thracio’r rhedwyr yn fyw ar ddiwrnod y ras gyda help Google Maps.
Gallwch weld lleoliad y gorsafoedd diod ac egni, yr adloniant ar hyd y cwrs a mwy! Dyma’r adnodd gorau hefyd ar gyfer cyhoeddiadau a gwybodaeth am ddiwrnod y ras.
Gall eich teulu a’ch ffrindiau gael yr wybodaeth ddiweddaraf yn fyw o bwyntiau amseru’r cwrs a rhannu eich hynt ar y cyfryngau cymdeithasol. Gallwch greu a lawrlwytho tystysgrif amser gorffen hefyd!
Mae’r ap ar gael ar App Store a Google Play.