
Does dim rhaid i chi redeg i fod yn rhan o ras fwyaf Cymru!
Mae gwirfoddolwyr yn hanfodol i wneud yn siŵr bod diwrnod y ras yn llwyddiant ysgubol a byddwch yn rhan o dîm mawr o wirfoddolwyr anhygoel sy’n mynd ‘Yr Ail Filltir’ ac yn ‘Gwneud Gwahaniaeth’ i sicrhau bod rhedwyr a gwylwyr fel ei gilydd yn mwynhau’r profiad.
Does dim angen unrhyw sgiliau penodol arnoch chi, dim ond eich bod chi’n ddibynadwy a hyblyg ac yn llawn brwdfrydedd! Bydd amrywiaeth eang o swyddogaethau gwahanol ar gael ar ddiwrnod y ras a bydd rhywbeth sy’n addas i bawb, fel:
- Helpu i hydradu’r rhedwyr drwy ddosbarthu dŵr yn un o’r gorsafoedd dŵr
- Ydych chi’n berson trefnus? Beth am helpu yn ein hardal storio bagiau?
- Ydych chi’n berson pobl? Gallwch helpu i gefnogi a chyfeirio rhedwyr ac ymwelwyr o amgylch yr ardaloedd cychwyn/gorffen
- Llongyfarch y rhedwyr drwy ddosbarthu medalau a bagiau o nwyddau
- Os ydych chi’n berson cymdeithasol, beth am helpu i gynnig lletygarwch i’r holl redwyr VIP
- Sgiliau camera da? Fe allech chi wirfoddoli fel Ffotograffydd
Fy fyddwn ni’n cynnig gwisg gwirfoddolwr i chi, yn sicrhau eich bod yn cael seibiant a lluniaeth a chefnogaeth ar y diwrnod drwy oruchwyliwr ac yn rhoi’r holl gymorth a hyfforddiant sydd ei angen arnoch i gyflawni eich rôl.
Mae gwirfoddoli yn ffordd wych o fwynhau, gwneud ffrindiau, gwella eich CV a phrofi awyrgylch trydanol diwrnod y ras. P’un a ydych chi’n awyddus i fod yn rhan o’r digwyddiad rhyngwladol mawreddog hwn neu os oes gennych chi ffrindiau neu deulu sy’n rhedeg yn y ras, beth am wirfoddoli!
Os ydych chi’n rhan o grŵp ieuenctid neu grŵp yn y gymuned leol sydd â diddordeb mewn cymryd rhan, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi.
**SYLWER: Mae’n rhaid i chi fod yn 14 oed i wirfoddoli. Mae’n rhaid i bawb rhwng 14 a 17 oed fod â ffurflen ganiatâd rhieni wedi’i llenwi a bod yng nghwmni rhywun dros 18 oed pan fyddant yn gwirfoddoli (fel y cytunir gan riant/gwarcheidwad).**
Gwyliwch y fideo hwn a ffilmiwyd ym Mhencampwriaethau Hanner Marathon Prifysgol Caerdydd/IAAF i gael rhagor o wybodaeth am wirfoddoli:
Oriel Luniau
Cymerwch gip ar oriel luniau tîm yr Ail Filltir ar Flickr i ail-fyw’r profiad o wirfoddoli mewn digwyddiadau blaenorol.
Cardiff University/Cardiff Half Marathon 2018
Cardiff University/Cardiff Half Marathon 2017
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, cysylltwch â:
Naomi neu Marina– [email protected] / 02921 660 790