Hanner Marathon Caerdydd

Mae’r llwybr yn mynd heibio i dirnodau mwyaf eiconig y brifddinas gyda’i hadeiladau hanesyddol a’i golygfeydd hardd. Mae’r cwrs cyflym, sy’n wastad yn bennaf, yn golygu ei fod yn ddelfrydol i ddechreuwyr ac i redwyr elit.

 

Mae’r ras yn cychwyn y tu allan i Gastell Caerdydd a bydd rhedwyr yn pasio Stadiwm Principality a Stadiwm Dinas Caerdydd ar y ffordd i Benarth. Ar ôl pasio Marina Penarth, byddant yn croesi’r morglawdd i gyfeiriad Bae Caerdydd.  Bydd rhedwyr yn rhedeg drwy ganol y bae gan basio’r Eglwys Norwyaidd a Chanolfan Mileniwm Cymru.

Yna bydd y cwrs yn anelu tuag at ogledd y ddinas a bydd rhedwyr yn dolennu o amgylch Llyn Parc y Rhath cyn gorffen yn fawreddog yn y Ganolfan Ddinesig yng nghanol y ddinas.

Bydd y ras i gadeiriau olwyn yn cychwyn am 9:50am. Bydd y corlannau elit, gwyn, gwyrdd a choch yn cychwyn am 10:00am a bydd y corlannau melyn a glas yn cychwyn am 10:00am.  Cymerwch gip ar y map rhyngweithiol uchod i weld y llwybr yn fanylach. Bydd y cwrs yn cael ei blismona a’i stiwardio drwyddi draw.

TOILEDAU AR Y CWRS: Mae toiledau ar gael ar ddechrau’r ras ac ym Mhentref y Digwyddiad, a hefyd yn ystod milltir gyntaf y ras ac o amgylch y cwrs wrth ymyl pob gorsaf ddiod.  Os bydd angen toiled arnoch chi, defnyddiwch y toiledau os gwelwch yn dda.

Os byddwch chi’n cael eich dal yn pasio dŵr mewn ardal gyhoeddus neu mewn ardal nad yw wedi’i dynodi, byddwch chi’n cael eich gwahardd rhag pob digwyddiad yn y dyfodol.

 

Map o’r Cwrs
Proffil y Cwrs
Egni a Maeth ar y Cwrs

Bydd nifer o orsafoedd swyddogol ar gyfer dŵr, diodydd chwaraeon a jels egni o amgylch y llwybr.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma