Hanner Marathon Caerdydd

Gyda model busnes cymdeithasol gyfrifol a mwy na 50,000 o bobl yn cymryd rhan yn ein digwyddiadau bob blwyddyn, mae Rhedeg dros Gymru yn cydnabod ei rôl bwysig o ran darparu digwyddiadau uchelgeisiol o wyrdd, cynaliadwy ac isel eu heffaith. Yn ogystal â helpu i lywio ymddygiad cyfranogwyr, rydyn ni’n gweithio i leihau ein heffaith hyd yr eithaf drwy ddefnyddio llai o blastig, lleihau gwastraff ac osgoi deunyddiau anghynaliadwy.

  • Ystyried ffactorau llywodraethu corfforaethol, cymdeithasol ac amgylcheddol wrth ddewis cyflenwyr a darparwyr gwasanaethau.
  • Annog teithio cynaliadwy, trafnidiaeth gyhoeddus a rhannu ceir er mwyn lleihau ôl troed carbon y ras hyd yr eithaf. 
  • Adeiladu ar gyfradd ailgylchu 2018, sef 96%, drwy gyflogi tîm pwrpasol i fonitro gwastraff ar y dechrau a’r diwedd i sicrhau nad yw wedi’i halogi, ac felly bod modd ei ailgylchu – i efelychu’r gyfradd ailgylchu o bron i 100% a gyflawnwyd mewn gorsafoedd dŵr ar y cwrs. 
  • Osgoi defnyddio deunyddiau PVC niweidiol ar gyfer brandio/arwyddion a dewis deunyddiau heb eu gwehyddu sydd wedi cael eu hailgylchu.
  • Gweithio gydag Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio Prifysgol Caerdydd ac Ysgol Fusnes Caerdydd ar brosiect ymchwil newydd ac arloesol, gyda’r nod o greu digwyddiadau mwy cynaliadwy.   
  • Gweithio gyda’r partner dŵr Brecon Carreg (sy’n lleihau gwastraff drwy gynnig poteli llai y gellir eu hailgylchu’n llwyr) ar yr ymgyrch Rhedeg, Ail-lenwi ac Ailgylchu, gan annog pob rhedwr i ailgylchu.
  • Defnyddio bagiau startsh corn bioddiraddadwy y mae modd eu compostio, y gellir eu taflu yn y bin gwastraff gwyrdd. 
  • Annog partneriaid a samplwyr sy’n dosbarthu eitemau i’r rhedwyr ar ôl iddynt orffen i ystyried y deunyddiau a ddefnyddir yn eu cynhyrchion a’u deunydd pacio.
  • Argraffu deunyddiau hysbysebu (fel y llyfryn hwn) ar bapur wedi’i ailgylchu. 
  • Newid i fedalau wedi’u gwneud o sinc wedi’i ailgylchu – gan leihau’r CO2 a gynhyrchir yn y broses buro.
  • Ychwanegu ardaloedd gollwng ar bob milltir o’r llwybr, fel bod modd ailgylchu gwastraff ar y cwrs a lleihau’r effeithiau ar yr amgylchedd lleol. 
  • Gweithio gyda Maint Cymru i gynnig y cyfle i redwyr wrthbwyso eu hôl-troed carbon wrth gofrestru.
  • Parhau i ddatblygu uchelgeisiau amgylcheddol ac archwilio ffyrdd newydd o herio’r sefyllfa bresennol yn y diwydiant digwyddiadau torfol.
  • Adolygu ac archwilio camau gweithredu newydd i leihau effaith amgylcheddol Rhedeg dros Gymru ymhellach. 

Rydyn ni eisiau cynnwys cyfranogwyr yn ein nodau a byddem wrth ein bodd yn clywed eich sylwadau neu’ch syniadau wrth i ni barhau i chwilio am newidiadau cynaliadwy ac ymarferol eraill i’n digwyddiadau.   

[email protected]