Hanner Marathon Caerdydd

Mae gwybod eich bod wedi helpu eraill drwy redeg y ras yn gwneud i chi deimlo boddhad enfawr ar ôl gorffen. Byddwch chi’n teimlo mwy o gymhelliant wrth hyfforddi ac yn ystod y ras ei hun. Caiff cannoedd o achosion da eu cynrychioli yn Hanner Marathon Caerdydd Cymdeithas Adeiladu Principality bob blwyddyn a chodir dros £3 miliwn.

Unwaith y bydd y llefydd cyffredinol wedi gwerthu allan, os ydych chi’n awyddus i gymryd rhan yn y ras, dim ond drwy ein helusennau swyddogol y gallwch wneud hynny.  Bydd sawl un yn cynnig llefydd am ddim neu am gyfraddau gostyngol. Cysylltwch â nhw am ragor o fanylion.

Gallant roi ffurflenni noddi swyddogol i chi, manylion sut gallwch chi godi arian gyda JustGiving a gallant gynnig cymorth arbenigol i chi.

Cliciwch yma i weld rhestr o elusennau swyddogol

Os ydych chi’n elusen sydd â diddordeb mewn prynu pecyn elusen, anfonwch e-bost i [email protected].