Hanner Marathon Caerdydd

Bydd miloedd o bobl yn mynd i gefnogi’r rhedwyr yn Hanner Marathon Caerdydd Cymdeithas Adeiladu Principality, ac mae digon o gyfleoedd iddynt gyfrannu at y bwrlwm ar ddiwrnod y ras.

Gan fod Hanner Marathon Caerdydd Cymdeithas Adeiladu Principality wedi dod yn fwyfwy poblogaidd a bod y maes elit yn gwella, mae’r ddarpariaeth i wylwyr wedi gwella dros y blynyddoedd diwethaf hefyd er mwyn rhoi mwy o gyfle i bobl allu gwylio rhai o’r athletwyr gorau yn y byd yn troedio’r llwybr eiconig a chefnogi teulu a ffrindiau.

Mae’r ardal i wylwyr ar Heol Corbett yn gyfle unigryw i wylwyr brofi awyrgylch dihafal Hanner Caerdydd a’r dyrfa fywiog wrth i’r rhedwyr nesáu at y llinell derfyn ar Rodfa Brenin Edward VII.

Mae terasau sefyll haenog yn rhoi golygfa wych i wylwyr o’u teulu a’u ffrindiau yn croesi’r llinell derfyn tra bydd cerddoriaeth fyw, system PA, gwobrau a sgriniau mawr (yn dangos darllediad y BBC) ar Rodfa Brenin Edward VII yn eich helpu i fwynhau profiad y ras i’r eithaf.

Ewch yno’n gynnar i fachu’r lle gorau i wylio.  Rydyn ni’n argymell mynd draw i Heol Corbett a Rhodfa Brenin Edward VII o 10:15am.

MYNEDIAD I BOBL ANABL

Mae maes parcio talu ymlaen llaw ar gael yn stadiwm Pêl-droed Dinas Caerdydd filltir o’r llinell gychwyn.  Does dim meysydd parcio swyddogol yn agosach at linell gychwyn/derfyn y digwyddiad felly rydyn ni’n eich annog i ddefnyddio’r meysydd parcio cyhoeddus sydd ar gael yn y ddinas lle bo’n bosibl.

Mae rhywfaint o lefydd parcio i bobl anabl ar gael ym maes parcio Adeilad Morgannwg o 10:45am o ganlyniad i gyfyngiadau ar y ffyrdd.  Os bydd angen mynediad arnoch chi, cysylltwch â ni ar [email protected] ac fe wnawn ni ein gorau glas i’ch helpu.

Mae ardaloedd gwylio i bobl anabl ar gael ar y cychwyn (ardal gadw) ac ar y diwedd (platfform gwylio). Nodir y lleoliadau hyn ar y mapiau isod. Er gwybodaeth, gall mynediad fod yn gyfyngedig o ganlyniad i’r nifer fawr o wylwyr felly dylech gyrraedd yn gynnar lle bo’n bosibl. Mae’r ardaloedd gwylio ar gael ar sail y cyntaf i’r felin a bydd swyddogion diogelwch yn bresennol drwy gydol y dydd.


Adloniant ar y Cwrs

Oyster Catcher, PenarthDrum Runners
Cardiff Bay BarrageBatala Bristol
Norwegian ChurchUkulele Band
Roald Dahl PlassSamba Galez
Lloyd George Avenue NorthWelsh Air Ambulance Choir
Newport RoadCardiff Uni Brass Band
Albany Road Baptist ChurchAccordia
Pen Y Lan Community CentreTune Trucks
Principality Cylchfan EnfysPride Cymru
Lake Road WestRock Choir
Cathays Social ClubCathays Brass Band
Cathays CemetryRock N Soul
Corbett RoadTune Trucks