Mae Hanner Marathon Caerdydd Cymdeithas Adeiladu Principality wedi tyfu i fod yn un o’r rasys ffordd mwyaf cyffrous a phoblogaidd yn Europ.
Hwn yw’r ail hanner marathon mwyaf yn y DU a dyma’r digwyddiad mwyaf yng Nghymru o ran codi arian ar ran elusennau amrywiol.
Mae ei chwrs gwastad, cyflym yn pasio holl olygfeydd mwyaf trawiadol a thirnodau mwyaf eiconig y ddinas gan gynnwys Castell Caerdydd, Stadiwm Principality, y Ganolfan Ddinesig a Bae Caerdydd. Bydd miloedd o bobl yn dod i wylio a chefnogi’r rhedwyr mewn dinas sy’n enwog am fod mor angerddol am chwaraeon. Mae’r ras yn rhan o’r SuperHalfs, cyfres fyd-eang o rasys hanner marathon pwysicaf y byd, sy’n cynnwys rasys yn Lisbon, Prague, Copenhagen a Valencia.