Mae codi arian yn syml gyda JustGiving. Byddwch yn creu eich tudalen codi arian ar-lein yn gyflym ac fe wnawn ni anfon eich rhoddion yn uniongyrchol at eich elusen ddewisol. Gallwch greu eich tudalen isod, neu greu un pan fyddwch chi’n cofrestru ar gyfer y ras.
10 gair o gyngor gan JustGiving
- Hyrwyddwch eich hun-lun!
Bydd pobl â lluniau ar eu tudalen yn codi 14% yn fwy fesul llun. Esgus perffaith am #hunlun - Rhannwch eich stori bersonol
Pam bod hyn yn bwysig i chi? Rhannwch eich stori a’ch rhesymau dros godi arian. - Anelwch am darged
Bydd tudalennau â tharged yn codi 46% yn fwy. Gosodwch darged uchel a dywedwch wrth bawb. - Cofiwch rannu
Mae rhannu ar Facebook, y cyfryngau cymdeithasol a WhatsApp yn codi mwy. Peidiwch â phoeni, mae pobl eisiau clywed am y pethau da rydych chi’n eu gwneud. - Peidiwch ag anghofio e-bostio
Mae llawer o’ch ffrindiau, cydweithwyr a chymdogion nad ydynt ar rwydweithiau cymdeithasol ond byddent wrth eu bodd yn clywed am yr hyn rydych chi’n ei wneud. - Byddwch yn greadigol
Meddyliwch am ffyrdd difyr o ennyn diddordeb pobl. “Os bydda i’n codi £500, fe wna i gymryd rhan yn y digwyddiad mewn gwisg ffansi.” - Dywedwch wrth yr elusen
Dywedwch wrth yr elusen er mwyn iddi eich helpu i roi’r si ar led. Drwy roi gwybod i’r elusen eich bod wedi creu tudalen codi arian, efallai y bydd yn gallu ei rhannu â’i thudalennau cymdeithasol a thrwy’r e-bost. - Diweddarwch eich tudalen
Dywedwch wrth eich cefnogwyr sut mae pethau’n mynd drwy ddiweddaru eich tudalen yn aml. Byddant yn mwynhau dilyn eich hynt a gallwch hyd yn oed wneud hyn drwy ein ap ffonau clyfar. - Anogwch eraill
Beth am berswadio eich ffrindiau i gymryd rhan a chodi arian hefyd…gall hyn wneud y profiad yn fwy o hwyl! - Dalier ati
Bydd 20% o roddion yn cael eu derbyn ar ôl digwyddiad, felly ar ôl cymryd rhan mewn digwyddiad, cofiwch roi gwybod i bobl sut aeth hi.
Mae mwy o gyngor ac awgrymiadau arbenigol ar gael gan JustGiving yma