Pentref y Digwyddiad
City Hall Lawns
Dydd Sadwrn 10:00-14:00 | Dydd Sul 08:00-14:00
Mae Pentref y Digwyddiad, sydd ar Lawnt Neuadd y Ddinas, yn lle perffaith i chi gwrdd â’ch cyd-redwyr, ffarwelio â’ch ffrindiau a’ch teulu, gadael eich bagiau’n ddiogel yn ein pebyll cadw bagiau ac anelu at y llinell gychwyn cyn y ras. Mae hefyd yn lle perffaith i ymlacio ar ddiwedd y ras a chwrdd â’ch ffrindiau a’ch cefnogwyr unwaith eto.
Bydd cyfle hefyd i chi ymlacio, dod at eich hun a dathlu eich llwyddiant gyda sesiwn dylino haeddiannol, diolch i Brifysgol Caerdydd.
Pan fyddwch chi’n teimlo ychydig yn fwy sionc ar ôl eich sesiwn dylino, bydd rhaglen wych o adloniant a cherddoriaeth fyw ar eich cyfer hefyd.
Bydd nwyddau swyddogol y ras ar werth drwy gydol y dydd, ac os bydd gennych chi unrhyw ymholiadau ynghylch y ras, bydd ein Desg Gwybodaeth am y Digwyddiad yma i’ch helpu.
Os bydd chwant bwyd arnoch chi, beth am wledda ar fwyd stryd blasus neu ymlacio gyda diod haeddiannol i ddathlu – mae dewis eang o werthwyr ar gael.
Rhowch gynnig ar nifer o chwaraeon rhyngweithiol neu ewch at un o’n noddwyr ac elusennau a fydd yn arddangos eu cynhyrchion, eu gwasanaethau a’u hachosion da.
Mae llefydd bwyd ac arlwyo at ddant pawb ar gael ym Mhentref y Digwyddiad. Beth am dorri eich syched neu lenwi eich bol gyda: ….
Bydd dros 25 o elusennau yn bresennol hefyd – gan roi’r cyfle i redwyr a gwylwyr gymryd rhan mewn pob math o bethau, o chwaraeon i’r teulu a bwth lluniau i beintio gliter ar wynebau!
Diddordeb mewn arddangos?
Gyda dau ddiwrnod prysur yn llawn rhedeg, chwaraeon a gweithgareddau iechyd a lles, bydd Pentref y Digwyddiad yn fwrlwm o weithgarwch yng nghanol Caerdydd, sydd ar agor yn ystod ein Gŵyl Rhedeg i deuluoedd ddydd Sadwrn 30 Medi ac yn ystod yr hanner marathon ddydd Sul 1 Hydref.
Ydych chi’n sefydliad sy’n darparu adloniant, profiad mewn digwyddiadau neu fwyd a diod ac yn awyddus i gymryd rhan? Os felly, cysylltwch â Kelsey Duffill yn [email protected] neu ar 02921 660 790.