CYMDEITHAS ADEILADU’R PRINCIPALITY YN NODDI HANNER MARATHON CAERDYDD
Cyhoeddwyd heddiw mai Cymdeithas Adeiladu’r Principality yw partner newydd Hanner Marathon Caerdydd, sy’n dychwelyd i strydoedd y brifddinas ddydd Sul 1 Hydref er mwyn dathlu ugain mlynedd ers y ras gyntaf.
Erbyn hyn, Hanner Marathon Caerdydd yw’r digwyddiad torfol mwyaf yng Nghymru, a dyma un o’r rasys hanner marathon mwyaf o ran niferoedd a’r mwyaf adnabyddus yn Ewrop. Mae’r ras yn denu 27,500 a mwy o bobl i gofrestru i gymryd rhan.
Mae Matt Newman, Prif Weithredwr Run 4 Wales, yn credu y bydd y bartneriaeth hon yn gwreiddio Hanner Marathon Caerdydd ymhellach yn niwylliant y brifddinas:
“Wrth i ni baratoi i ddathlu’r garreg filltir anhygoel hon, edrychwn ymlaen yn fawr at weithio gyda’r Principality. Rydyn ni’n rhannu gwerthoedd tebyg iawn o ran cymuned, elusen ac amrywiaeth ac rydyn ni wedi ymrwymo i helpu pobl i gyrraedd eu nodau, boed hynny drwy ymarfer i gwblhau’r hanner marathon neu drwy gael lle i’w alw’n gartref. Gyda’n gilydd, rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at weld beth allwn ni ei gyflawni er mwyn gwneud eleni – yr ugeinfed ras – yn fwy arbennig byth.
“Mae gweithio ar y cyd â brand mor amlwg o Gymru yma yng Nghaerdydd – sydd â changhennau ar hyd a lled y wlad – yn rhoi ymdeimlad o berthyn yn y gymuned, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at weld y brifddinas yn troi’n goch ym mis Hydref.”
Principality yw’r gymdeithas adeiladu fwyaf yng Nghymru a’r chweched fwyaf yn y DU. Ar benwythnos y ras, bydd brand y gymdeithas ar gael i’w weld yn amlwg yn y brifddinas, o linell ddechrau’r ras yng Nghastell Caerdydd, ar hyd y llwybr 13.1 milltir sy’n ymestyn i Farina Penarth, at y llinell derfyn yn y Ganolfan Ddinesig.
Ychwanegodd Julie Ann Haines, Prif Weithredwr Cymdeithas Adeiladu’r Principality:
“Rydw i mor falch ein bod ni’n gweithio mewn partneriaeth â Hanner Marathon Caerdydd oherwydd rydyn ni’n credu mewn helpu pobl i wireddu eu breuddwydion a’u gobeithion. Mae’r digwyddiad hwn yn cael cymaint o gefnogaeth, ac mae’n dod â phobl at ei gilydd o gefndiroedd amrywiol ar hyd a lled y wlad. Mae’r ras yn creu awyrgylch carnifal o amgylch y ddinas, ac mae miloedd o bobl yn rhedeg er mwyn codi arian i gefnogi elusennau a chymunedau. Dyma’r gwerthoedd sydd gennym ninnau hefyd, fel cwmni blaenllaw yng Nghymru. Bydd yr hanner marathon yn achlysur gwych, a byddwn yn cefnogi’r rhedwyr drwy gydol eu taith.” Yn wir, ers i’r digwyddiad hwn gyrraedd y brifddinas yn 2003,
mae’r rhedwyr wedi hel £20 miliwn a mwy at achosion da dros y blynyddoedd. Ar ben hynny, mae Run 4 Wales – sy’n trefnu Hanner Marathon Caerdydd – yn ailfuddsoddi unrhyw elw mewn prosiectau cymunedol a chwaraeon ar lawr gwlad drwy ei sefydliad elusennol.
Mae Cymdeithas Adeiladu’r Principality eisoes yn hyrwyddo chwaraeon Cymru ar ôl noddi rygbi ar lawr gwlad dros y ddau ddegawd diwethaf. Y tu allan i’r byd chwaraeon, cafodd Cymdeithas Adeiladu’r Principality ei henwi’n ddiweddar fel prif noddwr Pride Cymru, sef yr elusen a’r ŵyl LHDTC+ fwyaf yng Nghymru.
Mae’r rhedwyr sy’n awyddus i gymryd rhan yn y ras eleni yn cael eu hannog i sicrhau eu lle heddiw. Mae disgwyl i’r cofrestriadau cyffredinol gael eu gwerthu o fewn y 24 awr nesaf. Gallwch chi gofrestru yn www.cardiffhalfmarathon.co.uk.