Hanner Marathon Caerdydd

Mawrth 2021 Hanner Marathon Caerdydd Wedi’i Ohirio Tan Hydref 2021

Mae Run 4 Wales wedi bod yn monitro sefyllfa barhaus Coronafeirws a’r canllawiau a gyhoeddwyd gan Lywodraethau Cymru a’r DU, gan wneud trefniadau i ddarparu digwyddiad diogel COVID yng Ngwanwyn 2021.

Rydym wedi gwylio gyda gobaith dros y misoedd diwethaf wrth i gyfyngiadau cyfnod cloi leddfu, ac i ddigwyddiadau peilot llwyddiannus ledled y DU dangos ei fod yn bosibl cyflwyno digwyddiadau torfol yn ddiogel. Erbyn hyn, yn dilyn cynnydd yn y nifer o achosion, cyfyngiadau cyfnod cloi wedi’u gosod a chyfnod cythryblus y gaeaf o’n blaenau na fydd yn bosibl cyflwyno digwyddiad o’r maint a’r raddfa hon erbyn mis Mawrth y flwyddyn nesaf.

Yn anffodus, mae angen i ni hysbysu bellach bod y 18fed Hanner Marathon Caerdydd Prifysgol Caerdydd, a drefnwyd ar gyfer 28 Mawrth 2021 bellach wedi’i ohirio tan ddydd Sul 3 Hydref 2021.

Mae sgil-effaith y penderfyniad hwn yn golygu y bydd 19eg Hanner Marathon Caerdydd hefyd yn cael ei gynnal flwyddyn yn ddiweddarach, ar 2 Hydref 2022.

Mae iechyd a diogelwch ein rhedwyr, gwirfoddolwyr, tîm digwyddiadau a’r boblogaeth ehangach yn hynod bwysig i ni. O ganlyniad, rydym wedi bod yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru a threfnwyr digwyddiadau torfol eraill ledled Cymru a’r DU i fapio dychweliad diogel i ddigwyddiadau.

Yn 2021 bydd Run 4 Wales yn cyflwyno nifer o’r digwyddiadau llai o fewn ei bortffolio i ddechrau, gyda mesurau hylendid a phellter cymdeithasol ychwanegol ar waith, gan adeiladu at y dychweliad mawr disgwyliedig o Hanner Marathon Caerdydd yn yr hydref.

Mae nifer o opsiynau ar gael i redwyr sydd wedi cofrestru ar gyfer 18fed Hanner Marathon Caerdydd, sydd bellach wedi’u gohirio o 28 Mawrth 2021 i 3 Hydref 2021.

Bydd pob rhedwr sydd â lle yn gallu ei ddefnyddio yn y digwyddiad wedi’i aildrefnu  ar ddydd Sul 3 Hydref 2021 gyda nifer o opsiynau ychwanegol, yn dibynnu ar y math o docyn fynediad.

Os ydych wedi cofrestru, byddwch wedi derbyn e-bost heddiw gyda mwy o fanylion am yr opsiynau sydd ar gael ichi (manylion isod hefyd). Os nad ydych wedi derbyn e-bost eto, edrychwch yn eich ffolder ‘junk’ neu cliciwch isod am fanylion yr opsiynau gwahanol a sut i fwrw ymlaen â’ch dewis dewisol.

Os ydych wedi’ch cofrestru ar gyfer y ddau ddigwyddiadau yn 2021 a drefnwyd (Mawrth a Hydref) byddwch wedi derbyn cyfarwyddiadau ac opsiynau ar wahân trwy e-bost.

Rydym yn deall ac yn rhannu eich siom gyda’r canlyniad hwn ond diolch am eich dealltwriaeth yn yr amgylchiadau anodd a digynsail hyn.

Erys ein meddyliau gyda’r rhai mae COVID-19 wedi effeithio arnynt yn uniongyrchol.

Gyda dymuniadau gorau,

Tîm Run 4 Wales

Opsiynau Rhedwyr

Dewiswch eich math o fynediad i weld eich opsiynau:

MAE GEN I FYNEDIAD CYNNAR

MAE GEN I FYNEDIAD CYFFREDINOL

MAE GEN I FYNEDIAD ALTHETAU CYMRU, YR ALBAN, LLOEGR NEU GI

MAE GEN I FYNEDIAD RHYNGWLADOL / TRAMOR

MAE GEN I FYNEDIAD PELLTER DWBL

MAE GEN I FYNEDIAD I’R GŴYL RHEDEG

MAE GEN I PASS CYFRES SUPERHALFS NEU MYNEDIAD ELUSENOL

RYDW I WEDI DERBYN LLE ODDI WRTH ELUSEN SWYDDOGOL

RYDW I WEDI DERBYN LLE TRWY PECYN CORFFORAETHOL NEU NODDWR

Cwestiynau Cyffredin

Yn y ddolen isod, gallwch ddod o hyd i atebion i nifer o Gwestiynau Cyffredin yn ymwneud â’r opsiynau ar gael a gohirio.

Mae ein swyddfa yn parhau i fod ar gau oherwydd cyfnod cloi’r Coronafeirws ac mae tîm gostyngol o staff yn gweithio’n galed i ymateb i ymholiadau o gartref. Darllenwch y Cwestiynau Cyffredin yn ofalus cyn cysylltu gan ein bod wedi ceisio nodi ymatebion i gynifer o bynciau y gallwn ragweld yn codi.

Os na allwch ddod o hyd i ymateb i’ch cwestiwn yn ein Cwestiynau Cyffredin, cysylltwch â ni trwy e-bost ond byddwch yn ymwybodol y bydd yn cymryd ychydig mwy o amser nag arfer i ni ymateb. Byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted ag y gallwn a diolch am eich dealltwriaeth ac amynedd o dan yr amgylchiadau anodd hyn:[email protected].

Cynnig Aelodaeth R4W

Mae eich cefnogaeth barhaus yn bwysig i ni felly, rydym yn cynnig gostyngiad o £10 oddi ar bris Aelodaeth R4W ar gyfer 2021 i bawb effeithiwyd gan y gohiriad yma (pris llawn £60).

Gall aelodau fwynhau prisiau ras gostyngedig, breintiau ‘trac cyflym’ ar ddiwrnod y digwyddiad, mynediad am ddim a blaenoriaeth i gyfres o ddigwyddiadau rhithwir, gostyngiad ar ddillad chwaraeon, maeth, a mynediad at gynnwys digidol unigryw. Gallwch hawlio’r gostyngiad ffafriol hwn trwy gofrestru yma erbyn 31 Rhagfyr 2020 a mewnbynnu’r cod disgownt CHM-10-2020 wrth dalu.