10K Porthcawl Ogi
Mae 10K Porthcawl Ogi yn ras gyffrous mewn tref sy’n enwog am syrffio, chwaraeon a llwybrau cerdded arfordirol, ac mae’n rhan o Gyfres 10K R4W.
Yn fan poblogaidd yn ystod yr haf i bobl leol ac i ymwelwyr, mae Porthcawl yn enwog am ddisgleirio yng ngolau’r haul. Mae’r ras 10K yn cael ei rhedeg ar ffyrdd sydd wedi’u cau, gan basio nifer o dirnodau a mannau godidog ger y môr gan gynnwys Rest Bay, Traeth Treco, Coney Bay, canol lliwgar y dref, y Pafiliwn hanesyddol, a Goleudy eiconig Porthcawl.
Bydd amrywiaeth o weithgareddau chwaraeon eraill i deuluoedd a phlant ar y diwrnod hefyd – gan gynnwys Ras Hwyl i’r Teulu a fydd yn rhoi cyfle i’r genhedlaeth nesaf o athletwyr gymryd eu camau cyntaf yn y byd rhedeg.