Gyda chalon drom mae Run 4 Wales (R4W), y cwmni tu ôl digwyddiadau chwaraeon cyfranogiad torfol mwyaf yng Nghymru, wedi cyhoeddi heddiw bod Hanner Marathon Caerdydd Prifysgol Caerdydd wedi’i ohirio i ddyddiad newydd yn 2022.
Roedd disgwyl i Hanner Marathon Caerdydd gael ei redeg ym Mhrifddinas Cymru ar 3 Hydref, bellach mae’r digwyddiad wedi’i aildrefnu ar gyfer 27 Mawrth, 2022. Dyma’r trydydd tro i’r digwyddiad gael ei ohirio oherwydd y pandemig, gyda’r ras ddiwethaf i gael eu cynnal yn cymryd lle ym mis Hydref, 2019. Yn y ras yna daeth Leonard Langat o Kenya i’r amlwg yn fuddugol, o flaen faes o fwy na 25,000 o redwyr, a gosododd record newydd gydag amser o 59 munud 30 eiliad.
Esboniodd Matt Newman, Prif Weithredwr R4W, y rhesymau tu ôl i’r penderfyniad:
“Mae Run 4 Wales (R4W) wedi bod yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru a Chyngor Caerdydd i ddeall yn union bryd y gallwn ni disgwyl i ddigwyddiadau dychwelyd yn ddiogel yng Nghymru, gan gynnwys Hanner Marathon Caerdydd Prifysgol Caerdydd (HMC).
“Er bod y broses o gyflwyno brechlynnau yn y DU yn parhau i gynnig gobaith, mae’r sefyllfa yng Nghymru yn parhau i fod yn ansicr, gyda Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yn caniatáu uchafswm o 4,000 o bobl i fynychu digwyddiadau awyr agored, gan gynnwys unrhyw gwylwyr sy’n gysylltiedig â’r digwyddiad.
“Hefyd, ar hyn o bryd nid oes unrhyw gynlluniau i lacio’r rheolau cadw pellter cymdeithasol o 2 fetr, sy’n cyflwyno heriau gweithredol sylweddol i drefnwyr digwyddiadau cyfranogiad torfol.
“Dros y blynyddoedd diwethaf mae HMC wedi tyfu i fod yr hanner marathon ail mwyaf yn y DU, gyda dros 25,000 o gyfranogwyr ac o gwmpas 100,000 o wylwyr yn llinellu’r strydoedd. Mae angen ar gyfnod sylweddol i gynllunio ar gyfer digwyddiad o’r raddfa hon ac rydym bellach wedi cyrraedd y cyfnod tyngedfennol. Mae adolygiadau 21 diwrnod Llywodraeth Cymru yn golygu na all R4W ragweld y cyfyngiadau cyffredinol a fydd mewn grym yr Hydref hwn, felly mae angen gwneud penderfyniad nawr.
“O achos yr holl ansicrwydd ac ar ôl cytuno â Chyngor Caerdydd, mae’r amgylchiadau’n mynnu bod rhaid i ni ohirio HMC 2021 hyd at wanwyn 2022. Mae iechyd a diogelwch cyfranogwyr y ras, cefnogwyr, gwirfoddolwyr a staff Run 4 Wales ar flaenllaw ein meddwl wrth wneud penderfyniadau a gobeithiwn fod pawb yn deall y rhesymau dros y penderfyniad.
“Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda phartneriaid yn y diwydiant digwyddiadau ac rydym yn gobeithio bydd hi’n bosib cynnal digwyddiadau eraill o fewn ein portffolio o fewn y canllawiau’r Hydref hwn.
“Mae’r HMC wedi datblygu i fod un o’r digwyddiadau chwaraeon mwyaf eiconig yng Nghymru, gan roi’r cyfle i redwyr o bob safon cystadlu ochr yn ochr â rhai o athletwyr gorau’r byd. Yn ogystal â hyn, HMC yw’r digwyddiad codi arian aml-elusennol mwyaf yng Nghymru, ac o fewn y 10 digwyddiad chwaraeon gorau’r DU am codi arian i elusennau.
“Hefyd eleni byddem wedi gweld Caerdydd yn ymuno â phedwar hanner marathon arall o’r radd uchaf – Lisbon, Prague, Copenhagen a Valencia – yng nghyfres ‘SuperHalfs’ newydd a gynhelir ledled Ewrop.
“Mae Hanner Marathon Caerdydd wedi tyfu i fod yn llawer mwy na ras rhedeg. Mae bellach yn ymddwyn fel canolbwynt ar gyfer agenda cymdeithasol ‘Run 4 Wales’ ac yn rhoi cyfle i wella bywydau llawer o bobl yng Nghymru.
“Yn ogystal â chodi proffil prifddinas Cymru i gynulleidfa ryngwladol a gyrru mwy na £5m o werth economaidd i’r rhanbarth, mae’r digwyddiad yn tynnu sylw at fanteision rhedeg i wella iechyd corfforol a meddyliol.
“Trwy weld cynnydd o grwpiau rhedeg cymdeithasol ledled Cymru yn ddiweddar, rydym hefyd yn ysbrydoli effaith gadarnhaol ar gynhwysedd cymdeithasol, rhedeg i fenywod ac ymgysylltu â’r gymuned.
“Ers i R4W gymryd cyfrifoldeb o’r digwyddiad mae’r hanner marathon wedi cynnal Pencampwriaethau Cymru, Prydain, y Gymanwlad a’r Byd. A bellach wedi’i nodi yn nyddiadur athletwyr byd-eang.
“Mae gan Gaerdydd y profiad o gynnal dau hanner marathon llwyddiannus o fewn un flwyddyn galendr, ac yn 2022 bydd rhifyn Hydref hefyd yn cael ei gynnal ar ddydd Sul cyntaf y mis.
“Yn ogystal i hyn, mi fydd 3 Hydref 2021 yn cael eu nodi gyda digwyddiad HMC rhithwyr cynhwysol, cyfle i ddathlu popeth sy’n arbennig am yr Hanner Marathon. Bydd y digwyddiad hwn, sy’n rhad ac am ddim, yn rhoi’r cyfle i bawb cerdded neu redeg 13.1 milltir i baratoi ar gyfer y digwyddiad fyw a fydd yn cymryd lle ar ddiwedd mis Mawrth 2022.
Dylai rhedwyr sydd eisiau mwy o fanylion ynglŷn â cheisiadau ar gyfer naill ddigwyddiad neu’r llall fynd i: