BBC broadcasts the Cardiff Half Marathon across the UK
Jason Mohammad will host live coverage as runners take to the city streets
As more than 27,000 runners prepare to take to the streets of Cardiff for the annual half marathon, viewers across the UK can watch the action live on BBC Two for the very first time.
The Cardiff Half Marathon is one of the highlights of the year for runners. Organised by Run4Wales, it takes participants past some of Cardiff’s best-known locations, including Cardiff Castle, the Principality Stadium, as well as taking in the sea air in Cardiff Bay as runners make their way across the barrage before heading back to the city past the Senedd and Wales Millennium Centre.
Jason Mohammad will present this year’s coverage on Sunday October 6th, broadcasting live on BBC One Wales and BBC Two across the UK, with event highlights later that evening at 10pm on BBC Two Wales.
The half marathon has grown into one of the most high-profile road races in the United Kingdom. It is now one of Europe’s largest half marathons and is Wales’ largest mass participation and multi-charity fundraising event. For the first time in the event’s history, female runners will make up the majority of entrants this year.
Presenter Jason Mohammad said:
“I’m absolutely thrilled to be hosting this year’s Cardiff Half Marathon. It’s always a pleasure to be in front of the camera talking to the guests about the course in the city I grew up in and love dearly.
“I have friends running this year so I’ll be on the lookout for them and, of course, the elite runners. We’re also on BBC network TV this year so I’ll be hugely proud to be introducing the capital city of Wales to viewers across the UK.”
Run 4 Wales CEO Matt Newman said:
“A record field of 27,500 runners of all abilities will make the 17th instalment of Wales’ largest mass-participation and fundraising event the biggest and best yet.
“Viewers will be treated to the excitement of a fiercely competitive elite race and elite wheelchair race, before a host of inspiring female runners taking on the challenge of a lifetime get the exposure they deserve as part of our #WhyWeRun campaign.
“Cardiff has a rich history of staging major sporting events and we are relishing the opportunity to add to the sporting fabric of the Welsh capital in front of a UK audience.”
Live coverage will begin on BBC One Wales from 9:30am, with viewers on BBC Two network joining at 9:45am. Highlights will be on BBC Two Wales at 10pm.
Y BBC i ddarlledu holl gyffro Hanner Marathon Caerdydd ledled y Deyrnas Unedig
Bydd Jason Mohammad yn cyflwyno darllediad byw i wylwyr wrth i’r rhedwyr droedio strydoedd y ddinas
Wrth i fwy na 27,000 o redwyr baratoi i droedio strydoedd Caerdydd ar gyfer yr hanner marathon blynyddol, gall gwylwyr ar draws y DU wylio’r holl ddigwyddiadau yn fyw ar BBC Two am y tro cyntaf.
Hanner Marathon Caerdydd yw un o uchafbwyntiau’r flwyddyn i redwyr. Wedi ei drefnu gan Run4Wales, bydd y cyfranogwyr yn pasio rhai o leoliadau mwyaf adnabyddus Caerdydd, gan gynnwys Castell Caerdydd, Stadiwm y Principality, yn ogystal â chael llond ysgyfaint o wynt y môr ym Mae Caerdydd wrth i redwyr groesi’r morglawdd cyn troi yn ôl am y ddinas heibio y Senedd a Chanolfan Mileniwm Cymru.
Jason Mohammad fydd yn cyflwyno eleni, ddydd Sul 6 Hydref, gan ddarlledu’n fyw ar BBC One Wales ac ar BBC Two ar draws y DU, gydag uchafbwyntiau o’r digwyddiad yn ddiweddarach y noson honno am 10pm ar BBC Two Wales.
Mae’r hanner marathon wedi tyfu i fod yn un o rasys ffordd amlyca’ y Deyrnas Unedig. Bellach mae’n un o hanner marathonau mwyaf Ewrop a dyma ddigwyddiad cyfranogi torfol mwyaf Cymru lle codir arian i sawl elusen. Am y tro cyntaf eleni, bydd rhedwyr benywaidd yn y mwyafrif.
Dywedodd y cyflwynydd Jason Mohammad:
“Rydw i wrth fy modd fy mod i’n cael y cyfle i gyflwyno Hanner Marathon Caerdydd eleni ar gyfer BBC Cymru. Mae hi bob amser yn bleser bod o flaen y camera yn siarad â’r gwesteion am y ras yn y ddinas lle gefais fy magu ac mor agos at fy nghalon.
“Mae gen i ffrindiau yn rhedeg eleni felly byddaf yn cadw golwg amdanyn nhw ac, wrth gwrs, y rhedwyr elitaidd. Rydyn ni hefyd ar deledu rhwydwaith y BBC eleni, felly byddaf yn hynod falch o fod yn cyflwyno prifddinas Cymru i wylwyr ledled y Deyrnas Unedig.”
Dywedodd Prif Swyddog Gweithredol Run4Wales, Matt Newman:
“Bydd 27,500 o redwyr o bob gallu yn cymryd rhan eleni yn 17eg mlynedd y ras – sydd wedi datblygu’n ddigwyddiad cyfranogi torfol a chodi arian mwyaf Cymru. Hon fydd y fwyaf a’r gorau eto.
“Bydd gwylwyr yn cael blas ar gyffro ras elitaidd a ras cadair olwyn elitaidd hynod gystadleuol cyn i lu o redwyr benywaidd ysbrydoledig sy’n ymgymryd â her fythgofiadwy gael y sylw maen nhw’n ei haeddu fel rhan o’n hymgyrch #WhyWeRun.
“Mae gan Gaerdydd hanes cyfoethog o lwyfannu digwyddiadau chwaraeon mawr, ac rydyn ni’n ymhyfrydu yn y cyfle i ychwanegu at wead chwaraeon prifddinas Cymru gerbron ein cynulleidfa fwyaf erioed.”
Bydd darllediadau byw yn cychwyn ar BBC One Wales o 9:30am, gyda’r gwylwyr ar rwydwaith BBC Two yn ymuno am 9:45am. Bydd uchafbwyntiau ar BBC Two Wales am 10pm.