{"id":14372,"date":"2020-10-27T09:10:50","date_gmt":"2020-10-27T09:10:50","guid":{"rendered":"https:\/\/cardiffhalfmarathon.co.uk\/?page_id=14372"},"modified":"2020-10-27T09:10:51","modified_gmt":"2020-10-27T09:10:51","slug":"mawrth-2021-hanner-marathon-wedii-ohirio","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/www.cardiffhalfmarathon.co.uk\/cy\/mawrth-2021-hanner-marathon-wedii-ohirio\/","title":{"rendered":"Mawrth 2021 Hanner Marathon Wedi&#8217;i Ohirio"},"content":{"rendered":"\n<h4 class=\"wp-block-heading\">Mawrth 2021 Hanner Marathon Caerdydd Wedi&#8217;i Ohirio Tan Hydref 2021<\/h4>\n\n\n\n<p>Mae Run 4 Wales wedi bod yn monitro sefyllfa barhaus Coronafeirws a&#8217;r canllawiau a gyhoeddwyd gan Lywodraethau Cymru a&#8217;r DU, gan wneud trefniadau i ddarparu digwyddiad diogel COVID yng Ngwanwyn 2021.<\/p>\n\n\n\n<p>Rydym\nwedi gwylio gyda gobaith dros y misoedd diwethaf wrth i gyfyngiadau cyfnod cloi\nleddfu, ac i ddigwyddiadau peilot llwyddiannus ledled y DU dangos ei fod yn\nbosibl cyflwyno digwyddiadau torfol yn ddiogel. Erbyn hyn, yn dilyn cynnydd yn\ny nifer o achosion, cyfyngiadau cyfnod cloi wedi&#8217;u gosod a chyfnod cythryblus y\ngaeaf o\u2019n blaenau na fydd yn bosibl cyflwyno digwyddiad o&#8217;r maint a&#8217;r raddfa\nhon erbyn mis Mawrth y flwyddyn nesaf.<\/p>\n\n\n\n<p>Yn\nanffodus, mae angen i ni hysbysu bellach bod y 18fed Hanner Marathon Caerdydd\nPrifysgol Caerdydd, a drefnwyd ar gyfer 28 Mawrth 2021 bellach wedi&#8217;i ohirio\ntan ddydd Sul 3 Hydref 2021.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\nsgil-effaith y penderfyniad hwn yn golygu y bydd 19eg Hanner Marathon Caerdydd\nhefyd yn cael ei gynnal flwyddyn yn ddiweddarach, ar 2 Hydref 2022.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\niechyd a diogelwch ein rhedwyr, gwirfoddolwyr, t\u00eem digwyddiadau a&#8217;r boblogaeth\nehangach yn hynod bwysig i ni. O ganlyniad, rydym wedi bod yn gweithio&#8217;n agos\ngyda Llywodraeth Cymru a threfnwyr digwyddiadau torfol eraill ledled Cymru a&#8217;r\nDU i fapio dychweliad diogel i ddigwyddiadau.<\/p>\n\n\n\n<p>Yn\n2021 bydd Run 4 Wales yn cyflwyno nifer o&#8217;r digwyddiadau llai o fewn ei\nbortffolio i ddechrau, gyda mesurau hylendid a phellter cymdeithasol ychwanegol\nar waith, gan adeiladu at y dychweliad mawr disgwyliedig o Hanner Marathon\nCaerdydd yn yr hydref.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Mae\nnifer o opsiynau ar gael i redwyr sydd wedi cofrestru ar gyfer 18fed Hanner\nMarathon Caerdydd, sydd bellach wedi&#8217;u gohirio o 28 Mawrth 2021 i 3 Hydref\n2021.<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p><strong>Bydd\npob rhedwr sydd \u00e2 lle yn gallu ei ddefnyddio yn y digwyddiad wedi&#8217;i aildrefnu &nbsp;ar ddydd Sul 3 Hydref 2021 gyda nifer o\nopsiynau ychwanegol, yn dibynnu ar y math o docyn fynediad.<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Os\nydych wedi cofrestru, byddwch wedi derbyn e-bost heddiw gyda mwy o fanylion am\nyr opsiynau sydd ar gael ichi (manylion isod hefyd). Os nad ydych wedi derbyn\ne-bost eto, edrychwch yn eich ffolder \u2018junk\u2019 neu cliciwch isod am fanylion yr\nopsiynau gwahanol a sut i fwrw ymlaen \u00e2&#8217;ch dewis dewisol.<\/p>\n\n\n\n<p>Os\nydych wedi&#8217;ch cofrestru ar gyfer y ddau ddigwyddiadau yn 2021 a drefnwyd\n(Mawrth a Hydref) byddwch wedi derbyn cyfarwyddiadau ac opsiynau ar wah\u00e2n trwy\ne-bost.<\/p>\n\n\n\n<p>Rydym\nyn deall ac yn rhannu eich siom gyda&#8217;r canlyniad hwn ond diolch am eich\ndealltwriaeth yn yr amgylchiadau anodd a digynsail hyn.<\/p>\n\n\n\n<p>Erys\nein meddyliau gyda&#8217;r rhai mae COVID-19 wedi effeithio arnynt yn uniongyrchol.<\/p>\n\n\n\n<p>Gyda\ndymuniadau gorau, <\/p>\n\n\n\n<p>T\u00eem Run\n4 Wales<\/p>\n\n\n\n<div style=\"height:51px\" aria-hidden=\"true\" class=\"wp-block-spacer\"><\/div>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\"><strong>Opsiynau\nRhedwyr<\/strong><\/h4>\n\n\n\n<p>Dewiswch\neich math o fynediad i weld eich opsiynau:<\/p>\n\n\n\n<p><a href=\"https:\/\/cardiffhalfmarathon.co.uk\/postponement-options-individuals\/\">MAE GEN I FYNEDIAD CYNNAR<\/a> <\/p>\n\n\n\n<p><a href=\"https:\/\/cardiffhalfmarathon.co.uk\/postponement-options-individuals\/\">MAE GEN I FYNEDIAD CYFFREDINOL<\/a><\/p>\n\n\n\n<p><a href=\"https:\/\/cardiffhalfmarathon.co.uk\/postponement-options-individuals\/\">MAE GEN I FYNEDIAD ALTHETAU CYMRU, YR ALBAN, LLOEGR NEU GI<\/a><\/p>\n\n\n\n<p><a href=\"https:\/\/cardiffhalfmarathon.co.uk\/postponement-options-individuals\/\">MAE GEN I FYNEDIAD RHYNGWLADOL \/ TRAMOR<\/a> <\/p>\n\n\n\n<p><a href=\"https:\/\/cardiffhalfmarathon.co.uk\/postponement-options-individuals\/\">MAE GEN I FYNEDIAD PELLTER DWBL<\/a><\/p>\n\n\n\n<p><a href=\"https:\/\/cardiffhalfmarathon.co.uk\/festival-of-running-postponement-options\">MAE GEN I FYNEDIAD I\u2019R G\u0174YL RHEDEG<\/a> <\/p>\n\n\n\n<p><a href=\"https:\/\/cardiffhalfmarathon.co.uk\/team-&amp;-discount-code-entry-postponement-options\">MAE GEN I PASS CYFRES SUPERHALFS NEU MYNEDIAD ELUSENOL<\/a><\/p>\n\n\n\n<p><a href=\"https:\/\/cardiffhalfmarathon.co.uk\/charity-runner-postponement-options\/\">RYDW I WEDI DERBYN LLE ODDI WRTH ELUSEN SWYDDOGOL<\/a><\/p>\n\n\n\n<p><a href=\"https:\/\/cardiffhalfmarathon.co.uk\/team-&amp;-discount-code-entry-postponement-options\">RYDW I WEDI DERBYN LLE TRWY PECYN CORFFORAETHOL NEU NODDWR<\/a><\/p>\n\n\n\n<div style=\"height:51px\" aria-hidden=\"true\" class=\"wp-block-spacer\"><\/div>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\"><strong>Cwestiynau\nCyffredin<\/strong><\/h4>\n\n\n\n<p>Yn y ddolen isod,\ngallwch ddod o hyd i atebion i nifer o Gwestiynau Cyffredin yn ymwneud \u00e2&#8217;r\nopsiynau ar gael a gohirio.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae ein swyddfa yn\nparhau i fod ar gau oherwydd cyfnod cloi\u2019r Coronafeirws ac mae t\u00eem gostyngol o\nstaff yn gweithio&#8217;n galed i ymateb i ymholiadau o gartref. Darllenwch y\nCwestiynau Cyffredin yn ofalus cyn cysylltu gan ein bod wedi ceisio nodi\nymatebion i gynifer o bynciau y gallwn ragweld yn codi.<\/p>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-columns has-2-columns is-layout-flex wp-container-core-columns-is-layout-9d6595d7 wp-block-columns-is-layout-flex\">\n<div class=\"wp-block-column is-layout-flow wp-block-column-is-layout-flow\">\n<div class=\"wp-block-button\"><a class=\"wp-block-button__link\" href=\"https:\/\/cardiffhalfmarathon.co.uk\/postponement-faqs\/\"> CWESTIYNAU CYFFREDIN <\/a><\/div>\n<\/div>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-column is-layout-flow wp-block-column-is-layout-flow\"><\/div>\n<\/div>\n\n\n\n<p>Os na allwch ddod o\nhyd i ymateb i&#8217;ch cwestiwn yn ein Cwestiynau Cyffredin, cysylltwch \u00e2 ni trwy\ne-bost ond byddwch yn ymwybodol y bydd yn cymryd ychydig mwy o amser nag arfer\ni ni ymateb. Byddwn yn cysylltu \u00e2 chi cyn gynted ag y gallwn a diolch am eich\ndealltwriaeth ac amynedd o dan yr amgylchiadau anodd hyn:<a href=\"mailto:cardiffhalfmarathon@run4wales.org\">cardiffhalfmarathon@run4wales.org<\/a>.<\/p>\n\n\n\n<div style=\"height:51px\" aria-hidden=\"true\" class=\"wp-block-spacer\"><\/div>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\"><strong>Cynnig\nAelodaeth R4W<\/strong><\/h4>\n\n\n\n<p>Mae eich cefnogaeth\nbarhaus yn bwysig i ni felly, rydym yn cynnig gostyngiad o \u00a310 oddi ar bris\nAelodaeth R4W ar gyfer 2021 i bawb effeithiwyd gan y gohiriad yma (pris llawn \u00a360).<\/p>\n\n\n\n<p>Gall aelodau fwynhau prisiau ras gostyngedig, breintiau \u2018trac cyflym\u2019 ar ddiwrnod y digwyddiad, mynediad am ddim a blaenoriaeth i gyfres o ddigwyddiadau rhithwir, gostyngiad ar ddillad chwaraeon, maeth, a mynediad at gynnwys digidol unigryw. Gallwch hawlio&#8217;r gostyngiad ffafriol hwn trwy <a href=\"https:\/\/cardiffhalfmarathon.co.uk\/cy\/aelodaeth-r4w\/\">gofrestru yma<\/a> erbyn 31 Rhagfyr 2020 a mewnbynnu&#8217;r cod disgownt <strong>CHM-10-2020<\/strong> wrth dalu.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mawrth 2021 Hanner Marathon Caerdydd Wedi&#8217;i Ohirio Tan Hydref 2021 Mae Run 4 Wales wedi bod yn monitro sefyllfa barhaus Coronafeirws a&#8217;r canllawiau a gyhoeddwyd gan Lywodraethau Cymru a&#8217;r DU, gan wneud trefniadau i ddarparu digwyddiad diogel COVID yng Ngwanwyn 2021. Rydym wedi gwylio gyda gobaith dros y misoedd diwethaf wrth i gyfyngiadau cyfnod cloi<\/p>\n","protected":false},"author":3,"featured_media":14378,"parent":0,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"class_list":["post-14372","page","type-page","status-publish","has-post-thumbnail","hentry"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.cardiffhalfmarathon.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/14372","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.cardiffhalfmarathon.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.cardiffhalfmarathon.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.cardiffhalfmarathon.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/3"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.cardiffhalfmarathon.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=14372"}],"version-history":[{"count":4,"href":"https:\/\/www.cardiffhalfmarathon.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/14372\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":14382,"href":"https:\/\/www.cardiffhalfmarathon.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/14372\/revisions\/14382"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.cardiffhalfmarathon.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/14378"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.cardiffhalfmarathon.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=14372"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}